Moscow Fach
Aneirin Karadog yn trafod dylawnad Chwyldro Rwsia ar gymunedau ar draws de Cymru a thu hwnt. A look at the impact of the 1917 Russian Revolution on south Wales and beyond.
Aneirin Karadog sy'n cymryd golwg ar sut y gafaelodd y Chwyldro yn Rwsia yn 1917 yn nychymyg a meddyliau gl枚wyr a gweithwyr diwydiannol eraill yn ne Cymru a thu hwnt.
Roedd cefnogaeth gref i Lenin, arweinydd y Chwyldro, ymysg y rhai a oedd yn arwain Ffederasiwn Gl枚wyr De Cymru, a'r faner goch i'w gweld yn chwifio ar ben pyllau glo ar draws y de.
Cafodd cymuned Y Maerdy yng Nghwm Rhondda ei galw yn Moscow Fach o ganlyniad i rym y teimladau o blaid y Chwyldro, ac roedd dylanwad Lenin i'w deimlo'n gryf mewn pentrefi a threfi eraill hefyd.
Mae'r rhaglen yn clywed am deimladau pobl, ac effaith y teimladau hynny, wrth i gomiwnyddiaeth dyfu yn ne Cymru.
Ymhlith y cyfranwyr mae Hywel Francis a Robert Griffiths, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Prydain.
Ac am y tro cyntaf erioed, darlledir yn gyhoeddus atgofion Mrs. Edgar Taylora o'r Maerdy. Yn y recordiad o'r 1970au, mae'n s么n am ysbryd gwrthryfelgar y gl枚wyr, a'i chof am rai o arweinwyr comiwnyddiaeth ym maes glo y de.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 9 Tach 2017 12:30大象传媒 Radio Cymru
Dan sylw yn...
Chwyldro Rwsia 1917—Chwyldro Rwsia 1917
Rhaglenni yn nodi canrif ers i ddau chwyldro yn Rwsia yn 1917.