![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/640x360/p05sxfsz.jpg)
Y Tro Cyntaf
Y Tro Cyntaf yw thema John Hardy ar yr ymweliad hwn ag archif Radio Cymru. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Y Tro Cyntaf yw'r thema ar Cofio gyda John Hardy heddiw. Cawn hanes y pedrybled cyntaf ym Mhrydain, a hynny yn Ysbyty Cynfin ger Ponterwyd, gydag Erwyd Howells a hefyd clywed am agor yr Ysgol Gymraeg cyntaf dan ofal awdurdod Addysg, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli yn 1947.
Mae'r digrifwr Gari Williams yn cofio ei ddylanwadau cynnar a Llwyd o'r Bryn yn cofio darlledu o Stiwdio'r 大象传媒 ym Mangor am y tro cyntaf yng nghwmni Bob Tai'r Felin. Caradog Jones o Bontrhydfendigaid sy'n cofio concro Mynydd Everest; fe oedd y Cymro cyntaf i wneud hynny.
Ac mae'r Athro Dewi Grey Morris yn edrych ar hanes Madog y Morwr, y person cyntaf i ddarganfod America, yn ei ffordd unigryw ei hun.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 14 Ion 2018 13:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Mer 17 Ion 2018 18:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2