Diddanwyr
Mae John Hardy a chriw Cofio'n clodfori adloniant ysgafn Cymru. Cofio sings the praises of Welsh light entertainment.
Byddwch yn barod i gofio ac i chwerthin, wrth i ni roi sylw i arwyr adloniant ysgafn Cymru.
Clywn deyrnged gan Idris Charles i'r amryddawn Gari Williams, a Dewi Pws yn barddoni. Mae R. Alun Evans yn trafod adloniant cynnar Cymraeg a Hywel Gwynfryn sy'n s么n am ei arwyr Charles a Mered. A ble fyddai Cymru heb y rhaglen Noson Lawen? Toni Caroll sy'n torri record am fod yn ferch gyntaf i gyflwyno'r rhaglen.
Clywn bwt o recordiad o'r rhaglen Dic Preifat gyda Mei Jones, Eilir Jones, Dyfan Roberts a chynulleidfa Gwesty鈥檙 Foelas, Pentrefoelas -pwt sy'n dangos nad yw pethau wastad yn dilyn y cynllun. Hefyd hwyl o Fryncoch wrth loywi Cymraeg i blesio noddwr newydd , ac Arwel Jones yn hel atgofion am anturiaethau Hogia'r Wyddfa.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 29 Maw 2020 13:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Mer 1 Ebr 2020 18:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru