O Glos y Cadno i'r Crocbren
Hanes llofruddiaethau Fferm Y Cadno, Pentywyn, yn 1953, trwy archif ac atgofion. Retelling the 1953 Pendine murders through archive and contemporary interviews.
Rhaglen ddogfen yn dilyn hanes llofruddiaeth John a Phoebe Harries fferm y Derlwyn, Llangynin ym mis Hydref 1953. Clywir lleisiau heddweision, cyfeillion, aelodau o'r wasg a chymdogion a gyfranodd i raglen ddogfen Llwyfan yn 1977, a chyfweliadau diweddar gan rheiny oedd yn cofio'r digwyddiad.
Clywir gan Bryn Jones oedd yn heddwas ifanc yn ardal Caerfyrddin ar y pryd, Lena Pritchard Jones oedd yn ferch ysgol yn yr ardal, ynghyd 芒 Jean Evans oedd yn y llys adeg dyfarnwyd y gosb eithaf ar Ronnie Harries, Fferm y Cadno, Pentywyn am lofruddio'r ddau.
Clywir sut am fis cyfan y bu'r heddlu gan gynnwys swyddogion o Scotland Yard, yn cribinio ardal helaeth am gyrff y cwpwl, ynghyd ag amgylchiadau dod o hyd i'w cyrff ar dir y Cadno. Mae Iori Rees, un o'r rheiny a welwyd nhw yn fyw ddiwetha yn esbonio sut bobol oedden nhw ynghyd 芒'r cymhelliad tu 么l i'r llofruddiaethau.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 26 Gorff 2020 18:30大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru
- Llun 31 Awst 2020 17:30大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2