Y Nawdegau
Awn ar daith yn 么l i'r nawdegau yng nghwmni John Hardy, drwy archif, atgof a ch芒n. Another visit to the Radio Cymru archive. This week we're back in the nineties!
Ymhlith y pytiau mae araith Mandela wrth iddo brofi rhyddid am y tro cynta' ers 27 mlynedd, tra bod I.D.E Thomas sy'n sgwrsio am arlywyddiaeth Bill Cinton.
Phil Davies sy'n adrodd hanes poblogrwydd y we fyd eang, a chyfle i hel atgofion am rhaglen deledu'r cariadon yn y 90au - Bacha Hi O 'Ma!
Roedd y 90au yn ddegawd o dristwch hefyd. Clywn brofiadau y milwr Derfel Williams a'r nyrs Bethan Rowlands, y ddau yn Rhyfel Y Gwlff. Cofia Twm Morys am y g芒n, Gerfydd Fy Nwylo Gwyn a gododd arian i rhai anghenus Affrica, tra bod Ann F么n sy'n cofio'r Dywysoges Diana.
Ym myd gwleidyddiaeth - hanes llafur yn ennill yr etholiad dan adain Tony Blair, ail refferendwm ar ddatganoli i'r Cymry a'r Cynulliad Cenedlaethol, a phwt gan y Tywysog Charles wrth iddo agor y Cynulliad yn swyddogol yn 1999.
Hefyd ymhlith yr arlwy, hanes agor twnel y Sianel yn 1994, a chip ar ffasiwn 'diddorol' y ddegawd.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 21 Meh 2020 14:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru
- Mer 24 Meh 2020 18:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2