Gadael
Archif, atgof a ch芒n ar y thema Gadael yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Gadael yw'n thema ni ar Cofio heddiw. O adael marc gyda dyfeisiadau Syr Clive Sinclaire i adael marc o fath gwahanol wrth glywed hanes y Biro gan Euros Jones Evans. A gadael bu hanes merched Greenham yn y diwedd, wedi iddynt lwyddo yn eu tasg; Jill Evans, Si芒n Ap Gwynfor a Binnie Jones sy'n rhannu eu profiadau.
I Nigeria yr aeth Eirwen Taylor wrth iddi adael Cymru i weithio gyda'r VSO, tra gadael am Ffrainc y gwnaeth Edward yr Wythfed wrth iddo ildio ei goron er mwyn priodi Wallis Simpson. Adeg yr Ail Ryfel Byd gadael am y Bahamas bu hanes y ddau a Chymro a fu'n eu cwmni sawl tro oedd E Price Williams. Roedd Wallis Simpson wedi ysgaru wrth gwrs, ond beth yw gwir ystyr y gair? Mae Euros Lewis yn esbonio'r tarddiad.
Gadael cartrefi bu hanes sawl cymuned Gymreig wrth i rymoedd fynnu tir ar gyfer cronfeydd d诺r; Richard Rees fu'n teithio'r pentrefi coll hyn yn 1994.
Mae Aled Sam yn mynd i Gaerfyrddin at Tudur Dylan i gael hanes man claddu'r bardd Tudur Aled. A gan aros yng Nghaerfyrddin, Towyn Jones sy'n trafod y rhai sydd ddim yn barod i groesi i'r byd nesa, ie, ysbrydion. Wrth i rai gadael y byd hwn, maent yn gadael eitemau pwysig i'w teuluoedd ac un eitem yn aml yw ffrog briodas, a dyna oedd hanes Catrin Beard a Si芒n Reeves.
Hefyd, atgofion am gwmni sydd wedi gadael y Stryd Fawr, Woolworth; dwy sy'n cadw'r atgofion yn fyw yw Margaret Jones ac Ann Hughes.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 5 Gorff 2020 14:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Mer 8 Gorff 2020 18:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2