Swyddi
Archif, atgof a chân yn ymwneud â swyddi, yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive. This week we’re going back to work!
Gyda sawl un ohonon ni yn mynd yn ôl i ffordd fwy arferol o weithio yn dilyn y Cofid mae Cofio wedi bod yn chwilota yn yr archif a dyma raglen a ddarlledwyd yn gyntaf yn 2009. Emrys Evans sy’n trafod llysenwau’r chwarelwyr tra bod Huw Jones, John Roberts, Mary Hughes ac Ernest Roberts yn sôn am waith yn y chwareli gyda John Bevan.
Mrs Lloyd, Mrs Reynolds a Miss Walters yn sôn wrth Ednyfed Hudson Davies am y dyddiau yn ystod yr ail ryfel byd yr oedden nhw’n gweithio yng ngwaith tun Cydweli.
Val Jones sy'n hel atgofion am y cyfnod bu’n gweithio fel dynes lolipop a'r actor Jo Roberts sy'n edrych nôl ar y swyddi amrywiol mae o wedi’u cael.
Hefyd ymhlith y pytiau mae Menna Richards yn holi Agnes Richards am waith y glowyr yn y 20au, tra bod Lyn Roberts a John Vince Williams yn siarad gyda Keith Davies am effeithiau streic fawr y glowyr ar Gwmaman, Sir Gar yn ystod 1984/85.
Yna ar drywydd hollol wahanol, mae Dewi Roberts yn sôn am ei yrfa fel peilot awyrennau ac fel hyfforddwr peilotiau. Ni wnaeth Dewi fawr o ddefnydd o’i feddyg teulu, ddim fel Y Dyn Sâl, a dyma fe’n cwyno am gal ‘chil’ ar y bowel.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 19 Gorff 2020 14:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2
- Mer 22 Gorff 2020 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2 & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru