Cofio
Dewch i droedio'r arfordir drwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. Join us for a trip to the coast this week.
Dewch am dro i'r arfordir gyda Cofio yr wythnos hon.
Cawn glywed atgofion ein gwrandawyr o ddyddiau pleserus ger y lli, tra bo eraill yn rhannu eu hoff draethau yng Nghymru i dreulio gwyliau. Awn yn 么l i adroddiad o 1896 o'r Herald Gymraeg sy鈥檔 adrodd hanes trip Ysgol Sul go arbennig. Nid hamddena yn unig y byddwn ni, byddwn ni hefyd yn rhoi sylw i'r cannoedd sydd wedi ennill eu bywoliaeth ar y glannau ar hyd y blynyddoedd, fel Mrs Gwladys Roberts oedd yn casglu Cregyn Gleision yng Nghonwy. Sian Parri Hughes aeth i harbwr Pwllheli i siarad gyda Greta Hughes a physgotwyr yr ardal am eu gwaith. Tad Sian, Gwyn Parri Hughes sy'n hel straeon am weithio yn nociau lliwgar Lerpwl tra bu Catrin Gerallt yn crwydro harbwr Abergwaun yn dysgu am yr hanesion a'r cysylltiad gyda Lloyd George.
Mae'n rhaid parchu'r m么r, a Essex Harvard o Glwb Achub Bywyd Trefdraeth sy'n rhannu rhai o鈥檌 brofiadau o rym y m么r. Gwyn Williams sydd wedyn yn siarad 芒 Huw Williams pysgotwr mecryll, crancod a chimychiaid o Borthdinllaen am gael ei alw allan i helpu cwch oedd mewn trybini oddi ar arfordir Enlli.
Er y perygl, mae harddwch hefyd. Yn hel atgofion mae Beti Jones a Maldwyn Williams am y stemar fach ar draws afon Menai ( o Frynsiencyn i Gaernarfon) a Gwyn Williams yn hwylio ar long yr Eilidir ar hyd arfordir Pen Llyn a gorllewin M么n. A be well i orffen, na limrig doniol o Pwlffacan o 2001 a chwis ar thema forwrol.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 9 Awst 2020 14:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Mer 12 Awst 2020 18:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru