Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Mis Medi

Dathlwn Mis Medi gyda archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. Let's celebrate September!

Mae John Hardy yn dathlu a chofio Prif ddigwyddiadau mis Medi.

Mae sawl trychineb i gofio amdanynt: Dewi Llwyd sy'n darlledu drannoeth i ddigwyddiadau erchyll 9/11 yn Efrog Newydd tra bod Dr Clive James yn rhoi safbwynt llygad dyst o ddaeargryn angheuol Mecsico nol yn 1985.

Fe gollon ni sawl talent arbennig yn ystod mis Medi dros y blynyddoedd - o dalent git芒r Jimi Hendrix, mawredd opera Syr Geraint Evans a dylanwad amhrisiadwy Yr Esgob William Morgan. Maent yn cael eu cofio gyda hoffter a balchder yn y rhaglen yr wythnos hon.

Gwelodd mis Medi hefyd sawl digwyddiad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol - fel ymgais i losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Cawn yr hanes yng ngeiriau Lewis Valentine. A Medi 16eg yw diwrnod Owain Glynd诺r, felly pan godwyd cofeb iddo yna tasg Gerallt Lloyd Owen oedd dewis englyn haeddiannol i fynd ar y gofeb ... ond a oedd teilyngdod?

Roedd yna deilyngdod mewn steddfod dra gwahanol - Steddfod Butlins ym Mhwllheli. Roedd Stuart Jones yno, ac yn cofio'r hwyl!

O Bwllheli i Lundain, ac i Stryd Downing, cartref prif weinidogion Prydain ers 1735. Megan Lloyd George sy'n cofio ei hamser yno.

Un arall o drigolion Llundain oedd Jack The Ripper, enw a ddaeth yn enwog wrth iddo ymddangos mewn llythyr yn y wasg am y tro cyntaf yn Medi 1888. Lyn Ebenezer sy'n trafod yr hanes.

Ac i orffen, stori hyfryd am pan ddaeth Napoli i Fangor. Ar Fedi 5ed 1962 fe gurodd t卯m p锚l-droed Dinas Bangor d卯m p锚l-droed Napoli o 2 g么l i ddim mewn gem yn Farrar Road. John Ogwen, I.B. Griffith, Alun Mummery, Emyr Morgan Evans, ac Owen Griffith sy'n cofio.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 2 Medi 2024 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Injaroc

    Ffwnc Yw'r Pwnc

  • The Jimi Hendrix Experience

    Foxy Lady

    • Are You Experienced?.
    • Polydor.
    • 13.
  • Syr Geraint Evans

    Le nozze di Figaro, K. 492, Act I: "Non pi霉 andra"

  • Paul Shane & The Yellowcoats

    Hi-De-Hi (Holiday Rock)

  • Carole King

    It Might As Well Rain Until September

    • Heartbeat - Forever Yours.
    • Sony.
  • Earth, Wind & Fire

    September

    • Greatest Hits Of 1978 (Various Artis.
    • Premier.
    • 3.
  • Green Day

    Wake Me Up When September Ends

    • (CD Single).
    • Reprise.
    • 1.
  • Steve Eaves

    Lleuad Medi

  • Heather Jones

    Medi A Ddaw

    • Enaid.
    • SAIN.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 13 Medi 2020 14:00
  • Mer 16 Medi 2020 18:00
  • Sul 1 Medi 2024 13:00
  • Llun 2 Medi 2024 18:00