Ydi Cymru'n Gêm?
Y cyflwynydd Alex Humphreys sy’n edrych ar sut siap sydd ar y byd gemau fideo yng Nghymru. Dyma’r diwydiant adloniant mwyaf yn y byd… felly Ydi Cymru’n Gêm?
Pa rôl mae Cymru a Chymreictod yn chwarae mewn gemau fideo? Sut mae bod yn chwaraewr proffesiynol a beth yw’r cysylltiad rhwng Gavin and Stacey a gemau fideo? Fe gewch chi’r atebion wrth i’r cyflwynydd Alex Humphreys edrych ar sut siap sydd ar y byd gemau fideo yng Nghymru – o gyfleoedd i ddatblygu gemau i fod yn rhan o’r byd eChwaraeon.
Mae Alex yn sgwrsio gydag un sy’n hyfforddi chwaraewyr proffesiynol, ac yn gofyn beth sydd angen er mwyn serennu ym myd cystadleuol y gemau fideo.
Hefyd, mae cyfle i ddarganfod mwy am rôl yr iaith Gymraeg mewn gemau, gan gynnwys yng ngêm ddiweddaraf cwmni gemau fideo mwyaf Cymru, Wales Interactive.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 27 Medi 2020 19:30´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2