Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Comedi

Cofio comedi drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. Are you ready for a good laugh? It's comedy week!

Ymhlith y comedi gorau o archif ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru mae Gari Williams a’i straeon am Daphne, llygod a’r chwc chwcs, yn ogystal â Ryan a Ronnie a thaith Ryan i’r Tyrol!

Fe glywn ni hefyd gan ddynwaredwyr Pryd o Dafod,Emyr Roberts a Caren Brown, criw Dic Preifat a phwt bythgofiadwy o C’mon Midffild.

Caryl Parry Jones sy’n troi ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru yn radio masnachol gyda ambell hysbyseb ‘gwahanol’ iawn ar Radio Caryline! Nid rhaglen gomedi mo’r Talwrn, ond mae na sawl jôc wedi dod yn ei sgil. Awn yn ôl i 1977 at WD Williams, a ma pob peth yn codi gwrychyn Geraint Lovgreen yn 1995!

Stori o 1964 sydd gan Clive Rowlands i Grav, stori am neb llai na’r Prif Weinidog! Bois o lawr y Cwm i Clive oedd y Brodyr Bach, sef Paul ac Adrian Gregory. Sut brofiad oedd cael eich dal gan y Brodyr Bach? Huw a Helen Williams sy’n rhannu y profiad ‘pleserus’.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 7 Hyd 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 4 Hyd 2020 14:00
  • Mer 7 Hyd 2020 18:00