Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Muriau

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy; 'muriau' ydy testun y rhaglen heddiw. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

'Muriau' ydy testun Cofio yr wythnos hon.

T Llew Jones sy'n rhyfeddu ar y bardd WJ Gruffydd a'i ffrindiau yn adeiladu Tŷ Unnos yn 1962, a Mrs Jane Williams, Ffair Rhos a oedd yn 100 oed yn siarad am ei hatgofion hithau. Mari Emlyn sy'n esbonio'r ysbrydoliaeth tu ôl i'w nofel 'Waliau'.

30 mlynedd wedi cwymp wal Berlin yn 2019, Vaughan Roderick aeth i ymweld â'r ddinas.

Trafod waliau arwyddocaol Cymru, ac ydy codi waliau cerrig yn fath o gelfyddyd?

Y newyddiadurwr Meic Stephens sy'n cyfaddef mae ei waith gwreiddiol o ydy'r pwt o fur ar yr A487 ger Llanrhystud yn cario'r geiriau 'Cofiwch Dryweryn', a'r hanesydd Sara Huws sy’n esbonio fod graffiti yn rhan o ddiwylliant yr ardal.

Cofio eu profiad o fewn muriau carchar wedi eu safiad dros yr iaith mae Enfys Llwyd, Angharad Tomos, Marged Tomos a Meinir Frances.

Dathlu dau gan mlwyddiant y Cob, a dadansoddi hanesion waliau Caerdydd.

Y darlithydd daearyddiaeth Cai Ladd sy'n sôn am syniad arbenigwyr i adeiladu waliau ar wely'r môr i atal rhewlifoedd rhag diflannu ymhellach.

Cerdded wal fawr Tseina ddaru Cheryl Pugh Jones i ddathlu ei phenblwydd yn 50.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 2 Hyd 2023 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 10 Ion 2021 14:00
  • Sul 1 Hyd 2023 13:00
  • Llun 2 Hyd 2023 18:00