Martyn ac Iestyn v Bryn a Lleucu
Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Catrin Beard searches for the most knowledgeable team in this no-nonsense quiz.
Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Yr wythnos hon, Martyn ac Iestyn sy'n herio Bryn a Lleucu.
Mae Martin ac Iestyn yn gweithio mewn meysydd gwbl wahanol — mae Martin yn ystadegydd clyfar, yn dda hefo mathemateg ac yn drefnus. Mae Iestyn yn gweithio fel ymgyrchydd hawliau a chydraddoldeb ac hefo diddordeb mawr mewn celfyddydau. Caerdydd yw cartref y ddau bellach ond o’r Gogledd maen nhw'n wreiddiol, Iestyn o Ynys Môn a Martin o Gaernarfon. Buodd Martin unwaith mewn ffilm hefo un o sêr y ffilm Jurassic Park… fuodd Iestyn ddim.
Tîm Tad a’i Ferch o Fethesda ydy Bryn a Lleucu. Mae Lleucu yn ddisgybl 6ed dosbarth yn Ysgol Tryfan a Bryn yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor fel Pennaeth Cyfnewid Gwybodaeth.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Iau 18 Chwef 2021 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2