Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Nia a Tudur v Ianto a Bethan

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Catrin Beard searches for the most knowledgeable team in this no-nonsense quiz.

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol.

Mae Nia a Tudur yn gweithio i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Ngheredigion, ac mae ganddyn nhw 3 o blant – Cadi, Iori ac Eben sy’n eu cadw nhw’n brysur iawn yn ôl y disgwyl! Mae rygbi yn rhan bwysig o’n bywydau fel arfer hefyd– Tudur yn chwarae i C.R Aberaeron ers rhyw 18 flynedd a Nia eisoes wedi chwarae yn timau Ieuenctid gan gynnwys Gorllewin Cymru, ond bellach yn arwain pwyllgor y menywod ar ran Clwb Aberaeron. A’u ‘claim to fame’ – mae Nia yn mynnu hyd heddiw bod Ieuan Evans wedi pigo hi allan yn y dorf a rhoi winc iddi ar ôl sgorio cais i’r Llewod yn Ne Affrica yn 1997! Er mi gwrddodd Tudur a ‘Rhino’ o’r rhaglen ‘Gladiators’ tua’r un amser – yn Llanarth, Ceredigion o bobman.

Mae Ianto yn gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, canu â chôr Bechgyn Bro Taf, a chefnogi tîm rygbi'r Gleision. Ffaith ddiddorol: Mi oedd yn y Brifysgol gyda'r dyn sy'n modelu'r plismon sydd y tu allan i ddrysau Homebargains. Ddim yn ei nabod yn dda.
Mae Bethan yn athrawes ddrama yn Ysgol Glantaf, ac mae’n cefnogi tîm pêl-droed Wolverhampton Wanderers (Wolves). Ffaith ddiddorol: Cynrychiolodd Dîm Bowlio Cymru dan 18 ym Mhencampwriaethau Ewrop, ond mae cyfleoedd i chwarae wedi bod yn brin eleni, yn sgil y pandemig. Mae ganddyn nhw gi, Llew, sy’n mwynhau bwyta esgidiau pawb!

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 25 Chwef 2021 18:00

Darllediad

  • Iau 25 Chwef 2021 18:00