Ysbrydoliaeth
Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy sy'n chwilio am ysbrydoliaeth yn yr archif.
Fe glywir atgofion ysbrydoledig Dr Mary Williams, sef y ferch gyntaf i gael ei phenodi yn athro ym Mhrifysgol Cymru, ac yn 1989 Gerallt Lloyd Owen fu'n esbonio sut y bu llun o filwr ac englynion coffa R Williams Parry yn ysbrydoliaeth iddo. Y meddyg teulu Catrin Ellis Williams sy'n esbonio pam mae James Harrison yn arwr iddi hi, a phwy oedd arwyr disgyblion Ysgol y Dderwen Caerfyrddin yn 1987?
Mae Huw John Hughes a Dwynwen Thomas yn cofio'r diwrnod anhygoel pan ddaeth ysbrydoliaeth o rywle wrth i Cara'r ferch fach, a oedd yn bur wael, gael ei bedyddio ar frys yn yr ysbyty yn 1993. A Llywelyn Williams sy'n benderfynol o barhau i syrffio er gwaethaf y ddamwain ble gollodd ei goes. Mae Lyn Ebenezer yn cofio tair araith ysbrydoledig gan Martin Luther King, Patrick Pearse a'r bardd Gwenallt; ac fe glywir detholiad o araith Carwyn James ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Hwlffordd 1972.
Os am ysbrydoliaeth beth am droi at Nancy Selwood o Benderyn a gollodd ei golwg ond a aeth ati i ddysgu braille tra yn ei wythdegau.
Er taw cefndir Y Rhyfel Oer oedd yn sbardun ar gyfer y ras i'r lleuad, mae Dr Elin Jones, Bob Morus, Ifor ap Glyn, Geraint Huws Jones a Richard Foxall yn rhoi hanes y daith wefreiddiol i'r gofod.
Yr awdures Angharad Tomos sy'n cofio'r syrffed a deimlai tra yn y carchar a'r diffyg ysbrydoliaeth oedd i gael yno; a Bethan Gwanas sy'n esbonio sut y mae caneuon pop wedi ysbrydoli teitlau ambell i nofel.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 28 Chwef 2021 14:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2