Elwen QC
Portread o yrfa Elwen Evans, Cwnsler y Frenhines; ei chefndir, ei chrefft a'i chymeriad. An insight into the career of Elwen Evans QC; her background, her skill and personality.
Daeth Elwen Mair Evans i'r Bar yn Grey's Inn, Llundain ym 1980 a hithau wedi graddio gyda gradd ddosbarth cyntaf ddwbl o Gaergrawnt. Fe gymerodd y Sidan yn 2002, gan agor y drws i yrfa yn gweithio ar rai o'r achosion troseddol mwyaf heriol ym Mhrydain Fawr. Ar y cychwyn hi oedd yr unig ferch yn QC ym maes trosedd yng Nghymru a hyd yn oed heddiw, mae merched yn y maes hwn yn brin, yn enwedig yng Nghymru. Dewisodd ddychwelyd o Lundain i ymarfer ei chrefft gan ddechrau yng Nghaer ac yna yn Abertawe, lle bu hefyd yn bennaeth ar Siambr, ac erbyn diwedd ei chyfnod yno, mae hi'n falch o ddweud yr oedd mwy o fargyfreithwyr yn ferched nag oedd yn ddynion. Heb os, mae cryn barch i Elwen Evans am ei gwaith ar achosion proffil uchel iawn, nid dim ond yng Nghymru ond ym Mhrydain Fawr. Yn ôl Winston Roddick QC, 'mae'n sefyll allan fel bargyfreithiwr yn haeddu'r rheng o fod yn Gwnsler y Frenhines a thrwy ei hesiampl hi roedd hi'n dangos bod yna ferched eraill hefyd yn deilwng o gael eu codi i'r rheng’.
Ar gyfer rhoi portread cyflawn ohoni hi a'i gwaith, fe ddewiswyd dau achos gwahanol - un lle yr oedd Elwen Evans yn amddiffyn cleient (sef achos Wendy Ellis yn Llys y Goron Caernarfon) ac un lle'r oedd hi yn erlyn (sef yr achos yn erbyn Mark Bridger am lofruddio April Jones, yn Llys y Goron y Wyddgrug). Mae'r ddau achos yn dra gwahanol i'w gilydd ac yn cynnig cyfle i edrych ar wahanol agweddau o waith ac arddull Elwen Evans.
Yn yr ail raglen mae Elwen yn trafod yr achos yn erbyn Wendy Ellis, a gyhuddwyd o lofruddiaeth a dynladdiad ei phartner treisgar yn 2007. Ceir cyfraniadau hefyd gan gyfreithiwr Wendy, Michael Strain, a chyn ohebydd y Daily Post, Eryl Crump. Hefyd yn cyfrannu mae Winston Roddick QC, oedd yn erlyn Wendy Ellis yn yr achos.
Fe gawn drosolwg o beth mae hi'n golygu i fod yn Gwnsler y Frenhines yn y maes troseddol; y ddawn o holi a chroesholi; sut mae llunio achos; awyrgylch gystadleuol y maes troseddol; y rheidrwydd i adael emosiwn wrth ddrws y Llys, a thrwy hyn cawn fynediad unigryw i 'theatr' y Llys drwy ddisgrifiadau a storiâu un o fargyfreithwyr siadanog mwyaf talentog Cymru a thu hwnt. Elfen ddiddorol yn achos Wendy Ellis oedd y ffaith iddo gael ei gynnal bron yn gyfangwbwl yn y Gymraeg, gyda 12 namyn un o'r rheithgor yn deall yr iaith. Mae hon yn sefyllfa unigryw, ac fe ddewisodd Elwen Evans yr achos hwn ar gyfer y gyfres oherwydd ei bod â theimladau cryf am ddefnydd yr iaith, am gyfiawnder i rai sydd yn dymuno cael achos yn y Gymraeg, ac yn wir am ddyfodol y gyfraith yng Nghymru.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 28 Maw 2021 18:30´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2 & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Mer 31 Maw 2021 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2