Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Gair

Geiriau yw thema'r wythnos. Dr Kate Roberts; Ifor ap Glyn a'r Athro Bedwyr Lewis Jones yn ei elfen yn pori trwy hen eiriau. A weekly visit to the archive with John Hardy.

Geiriau o bob math yw'r thema'r wythnos hon. Tipyn o gamp i R Alun Evans i ddechrau pob gair gyda'r llythyren D, ond geiriau olaf ambell i berson enwog fydd Caryl Parry Jones, Dr Meic Stephens a Vaughan Hughes yn ei drafod ac yna Hywel Gwynfryn yn cael ychydig o hwyl efo geiriau caneuon Dafydd Iwan.

Brenhines y Gair, sef Dr Kate Roberts fu'n sgwrsio gyda'r Athro Derec Llwyd Morgan, ychydig ddyddiau cyn i ysgrif a oedd wedi ei ysgrifennu amdani gan Glyn Jones ymddangos yng nghylchgrawn yr Harvard Advocate. Criw'r rhaglen ddychan "Post Mortem" yn canu clodydd lansiad "Sgrabl Cymraeg" n么l yn 2005 ac yna sgwrs am gerdd "Dyddiadur i'r Dyfodol" gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, am breifateiddio'r iaith Gymraeg.

Y Fonesig Enid Parry yn cofio bathu geiriau yn yr Adran Newyddion y 大象传媒 yn 30au'r ganrif ddiwethaf ac yna hanes dirdynnol yr actores Peg Entwistle a anwyd ym Mhort Talbot ond aeth i Hollywood i fod yn actores enwog. Rhian Hodges o Brifysgol Bangor yn trafod rhegi a Geraint Jones o'r Talwrn yn chwarae ar eiriau.

Gwyn Erfyl aeth i sgwrsio gyda Dyddgu Owen o Bontrobert am ddyn anhygoel o ddiddorol, sef y cenhadwr John Davies, aeth allan i Tahiti i ledaenu Gair Duw yn y 19eg Ganrif ac yna Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yn ei elfen yn ateb cwestiynau'r gwrandawyr am hen eiriau a'u tarddiad.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 2 Mai 2021 14:00

Darllediad

  • Sul 2 Mai 2021 14:00