Yr Wyddor Gymraeg - o L i Y
Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy - yn dilyn y wyddor o L i Y. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Ail ran yr Wyddor Gymraeg - o L i Y - sy'r wythnos hon, gan ddechre ar y L么n Las yng nghwmni Linda Griffiths. Yna, cawn glywed acen braf Mari Jones o'r Alltwen a fu'n gweini yn nhai y byddigions yn Llundain yn hanner cynta'r ganrif ddiwethaf. Bu Mari yn gweini i'r teulu a oedd yn berchen ar Harrods, a bu ei chwaer Gwen yn gweini i'r teulu a oedd yn byw drws nesa i Syr Anthony Eden.
Ma'n siwr fod pob un ohonom a p芒r o fenyg, ond a ydech wedi meddwl am yr hanes tu 么l i'r dilledyn bach yma? Sina H芒f sydd yn s么n eu bod yn mynd n么l i gyfnod y Pharaohs yn yr Aifft! Lydia a chriw marchnad Llanelli oedd wedi bod yn gwylio rhaglen ddogfen am naturiaethwyr ar y teledu ac yn rhyfeddu at ffasiwn beth ac yna ofergoelion y theatr gan yr actores a'r gantores Beryl Hall, sy'n perchnogi'r lythyren O!
Pwy sy'n hoffi Pop? Y Parchedig Alwyn Daniels sy'n s么n am y g诺r o Sir Benfro a ddaeth a'r bybls i'r ddiod boblogaidd ac yna Ifas y Tryc sy'n mynd ar daith i lawr i Lunden efo'i wraig, Harri Bach a Jo i weld arddangosfa Tutankhamun, neu Twtangiaman fel mae'n ei alw, ond ofer bu'r daith!
Emrys Wyn Evans o Gaersws yn rhannu ei stori anhygoel am gael ei luchio o'i awyren Lancaster adeg yr Ail Ryfel Byd a chael ei ddal a'i roi yng ngharchar Stalag 4B yn yr Almaen.
Ma'r llun Salem yn enwog yng Nghymru, ond oeddech chi'n gwybod fod un o'r cymeriadau yn y llun ddim yn bodoli a mae "dummy" ydoedd? Elizabeth Jones, Llanfair sy'n adrodd yr hanes. Eifion Price a stori Wil a Dau ar y tren ac yna Gaenor Mai Jones yn s么n am ei chyfnod fel nyrs yn Llangrannog.
Mae'n 50 mlynedd ym mis Mai 2021 ers i Waldo Williams ein gadael a cyfle i glywed ddau o fawrion ein cenedl yn sgwrsio yn braf gyda'i gilydd, sef T Llew Jones a Waldo ei hun.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 16 Mai 2021 14:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Sul 27 Awst 2023 13:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2
- Llun 28 Awst 2023 18:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru