Gwneud Gwahaniaeth
Rhoi diolch i'r rhai sy'n "gwneud gwahaniaeth" mewn bywyd trwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Mae'r ysgol yn ddylanwad mawr arnom a dyma T Llew Jones yn egluro sut nath clywed stori pan oedd yn yr ysgol gynradd ddylanwadu cymaint arno. Erbyn hyn, mae sawl Ysgol Gymraeg yng Nghymru, ond yn y 50au mi roedd yn frwydr i gael ysgol cyfrwng Cymraeg a Hilda Owen o Gwm Afan sy'n cofio'r frwydr i gael addysg Gymraeg i'w phlant. Does dim amheuaeth fod y cyfeillgarwch o ganu yn gwneud gwahaniaeth ac mae Lily Richards yn gyfarwydd iawn 芒 nifer o gorau ac arweinwyr yn ardal Dowlais a Merthyr. Mudiad sy' wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ferched Cymru yw Merched y Wawr a Zonia Bowen sy'n s么n am sefydlu'r gangen gyntaf yn y Parc, ger y Bala.
Cofio aberth Rachel Barrett, a anwyd yng Nghaerfyrddin yn 1874 a'i magu yn Llandeilo, a'i brwydr i gael y bleidlais i ferched - mi roedd hi'n un o'r "suffragettes" .
Yn 2020 fe enillodd Tirion Thomas o'r Sarnau wobr 'Arwr Tawel Cymru 2020' yng ngwobrau personoliaeth chwaraeon y 大象传媒 am ei gwaith efo rygbi merched.
Bethan Wyn Jones yn holi Miss Elizabeth M Hughes o Ynys Cybi am ei gyrfa fel nyrs yn 20au'r ganrif ddiwethaf. Aros ym maes iechyd a stori anhygoel Sarah Roberts, Pwllheli a oedd yn gyrru ambiwlans adeg yr Ail Ryfel Byd, yna Dr Emyr Wyn Jones o Ben Ll欧n a oedd yn gweithio yn y Royal Infirmary yn Lerpwl gan arbenigo ar y galon. Emyr Williams o Lanbedr Pont Steffan yn trafod cyfeillgarwch arbennig wedi trawsblaniad m锚r-esgyrn a Rhian Evans, Llyfrgellydd yng Ngholeg y Drindod yn s么n am ddechrau llyfrau llafar i鈥檙 deillion.
Atgofion Caradog Williams, Cilcennin a fu鈥檔 blismon yn Llundain yn 50au a 60au鈥檙 ganrif ddiwethaf - ac yn cofio angladd Winston Churchill.
George Jones o d卯m Achub Mynydd Llanberis yn s么n am eu gwaith fel gwasanaeth argyfwng a'r ffaith ei fod i gyd yn wirfoddol.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 30 Mai 2021 14:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2