Dysgwyr Dros y Byd
Wrth i filoedd o bobol ddysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo, Beca Brown sy'n cwrdd 芒 rhai o'r siaradwyr Cymraeg newydd. Meeting people who've learnt Welsh during the pandemic.
Beca Brown sy'n cwrdd 芒 rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.
Yn y rhaglen hon cewn gwrdd 芒:
BEN OWEN-JONES
Cafodd Ben ei fagu yn Portsmouth a bu鈥檔 actio yn y ddrama Grange Hill pan oedd yn 11 oed. Wedi torri ei gefn mewn damwain, symudodd i Gymru yn 1996 i ddilyn cwrs coleg yng Nghasnewydd, lle mae e hefyd wedi bod yn ddarlithydd celf. Mae wedi dechrau dysgu Cymraeg ar-lein gan gadw dyddiadur sain o鈥檌 ymdrechion.
OLIVER LLEWELLYN
O Swydd Efrog yn wreiddiol mae Oliver newydd ddechrau dysgu disgyblion wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig. Ar 么l symud i Maryland yn yr Unol Daleithiau penderfynodd ddysgu Cymraeg gan fod ei dad-cu yn dod o Bort Talbot. Er nad oes llawer o gyfle i siarad Cymraeg yno, mae鈥檔 cyfrannu ar lein drwy gymdeithas Washington Welsh ac yn cynnal sesiynau sgwrsio Duolingo.
MOHINI GUPTA
Mae鈥檙 bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, yn gwneud gwaith ymchwil ym mhrifysgol Rhydychen ac ers Medi 2020 mae wedi ail gydio yn ei Chymraeg. Treuliodd dri mis yn Aberystwyth yn 2017 o dan nawdd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Sefydliad Mercator. Mae wedi cyfieithu c芒n boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac yn gobeithio cryfhau鈥檙 cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol.
JAMIE DUFFIELD
Jamie Duffield yw prif fragwr cwmni Wild Weather Ales yn Reading. Gan fod y bragdy ar gau ar ddechrau鈥檙 Cyfnod Clo roedd yn rhaid iddo addasu鈥檙 gwaith o gynhyrchu casgenni i werthu cwrw mewn caniau a dyfeisio cwrw newydd. Roedd teithio am awr bob ffordd bob dydd yn y car yn gyfle iddo ddysgu Cymraeg. Mae鈥檔 teimlo ei fod yn ail-gysylltu 芒鈥檌 wreiddiau gan fod teulu ei dad yn dod o ogledd Cymru.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 11 Hyd 2021 18:30大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2