Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Wrth i filoedd o bobol ddysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo, Beca Brown sy'n cwrdd 芒 rhai o'r siaradwyr Cymraeg newydd. Meeting people who've learnt Welsh during the pandemic.

Beca Brown sy'n cwrdd 芒 rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.

Yn y rhaglen hon cewn gwrdd 芒:

PHILIP MAC A鈥 GHOILL
Yn ystod y Cyfnod Clo cafodd Philip Mac a鈥 Ghoill ei benodi yn Swyddog Cynllunio鈥檙 iaith Wyddeleg yn Gaeltacht Donegal Iwerddon. Roedd newydd orffen ei ddoethuriaeth ym mhrifysgol Dulyn ac wedi dechrau dysgu Cymraeg ar 么l dod ar draws yr iaith gyntaf mewn cynhadledd i鈥檙 ieithoedd Celtaidd yng Nghaeredin yn 2019. Roedd wedi trefnu tocynnau a gwesty i ymweld 芒 Chymru鈥檙 llynedd ond mae鈥檔 dal i ddisgwyl ei gyfle.

JEN BAILEY
Mae Jen Bailey yn arweinydd c么r a cherddorfa sy鈥檔 dod o Awstralia yn wreiddiol ond wedi byw mewn amryw o wledydd cyn symud i ardal Utrecht yn yr Iseldiroedd gyda鈥檌 g诺r a鈥檌 merch. Yn ystod y Cyfnod Clo penderfynodd ychwanegu鈥檙 Gymraeg at yr wyth iaith y mae鈥檔 eu siarad yn rhugl.
Mae鈥檙 Gymraeg 鈥渨edi agor y byd鈥 iddi, meddai, wrth iddi wneud ffrindiau newydd ar lein. 鈥淢ae byd dysgwyr Cymraeg yn fyd anhygoel a chyffrous iawn,鈥 meddai.

NEIL PYPER
Gwyliau teuluol yn ardal Aberystwyth yn 2019 oedd y sbardun i Neil Pyper ddysgu Cymraeg. Bellach mae鈥檙 darlithydd economeg yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain yn rhugl yn yr iaith ac wrth ei fodd 芒鈥檙 diwylliant, llenyddiaeth a barddoniaeth. 鈥淩oedd yn syrpreis mawr i mi fod llawer o bobol yn Lloegr sy鈥檔 siarad Cymraeg a chymuned o siaradwyr Cymraeg dros Loegr.鈥
Drwy ddysgu鈥檙 iaith cafodd gyfle i ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg ar-lein, darllen nofelau Manon Steffan Ros a barddoniaeth Mererid Hopwood. 鈥淢ae yna ran o Gymru dw i wedi darganfod ers dechrau dysgu Cymraeg. Oni鈥檔 meddwl mod i鈥檔 nabod Cymru yn dda iawn ac roedd yn arbennig iawn i mi ddarganfod another side.鈥

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 12 Hyd 2021 18:30

Darllediad

  • Maw 12 Hyd 2021 18:30