Y Ddaear
"Mae angen bod yn fwy ffeind efo'r ddaear - un blaned sy' gennom ni".
Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Gyda mawrion y byd yn cyfarfod yng Nglasgow ar gyfer Cynhadledd COP 26, y ddaear yw thema'r wythnos.
Yn yr ardd mae Arwel Jones ac Eurig Wyn ac yna cynghorion tyfu llysiau gyda Clay Jones, Glan Morris a Gareth Evans. O'r ardd i'r buarth a hanes Edward Vaughan, Llanerfyl sy'n s么n am arallgyfeirio a throi baw ieir yn drydan i'r grid cenedlaethol gyda threuliwr anaerobig.
Mae ail-gylchu yn air mawr y dyddiau hyn, wrth i ni drio bod yn fwy ffeind efo'r ddaear a dyma hanes busnes ailgylchu LAS sy' wedi ei sefydlu ers 1963 a Tina Morris a'i brawd Mark yw'r drydedd genhedlaeth yn y cwmni teuluol.
Yn 么l y s么n, dim ond ar ein planed ni mae bywyd a dyma Dr Rhodri Evans sydd yn esbonio be sy'n neud ein planed ni yn un arbennig. Does fawr o fywyd lawr yn yr Antartig, ond mi roedd Elgan Lewis yn dathlu Nadolig yno n么l yn 2018.
Hanes anhygoel tsunami a ddigwyddodd yn Nhalsarnau yn 1927 ac Ann Savage sy'n adrodd yr hanes.
Mae llifogydd yn rhywbeth blynyddol bron a bod, a dyma Rebecca Williams yn cofio'r dinistr yn Nhalybont yn 2012 a hanes y gymuned yn dod at ei gilydd i roi cymorth i gymuned arall pan ddaeth y dilyw i Bontypridd a'r Cymoedd yn 2020.
Lle buasem ni heb y gwenyn i beillio ein planhigion a sicrhau fod bwyd ar y bwrdd? Dewch i ni glustfeinio ar Gymdeithas Gwenynwyr Ceredigion.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 7 Tach 2021 14:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru
- Mer 10 Tach 2021 21:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2