Cariad
Archif, atgof a ch芒n ar y thema cariad yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
脗 ninnau ar drothwy Diwrnod Santes Dwynwen, thema gariadus sydd i'r pytiau o'r archif yng nghwmni John Hardy.
Lyn Ebenezer sy'n trafod ei gerdd ar y testun 'Ar y Shilff' ar raglen Dros Ben Llestri o 1992. Hefyd, hanes gwr Penybryn yn caru merch Gwern Hywel ond mi nath hi briodi Wilff y plismon yn diwedd!
Elinor John sy'n holi Catrin Stevens am y ffrog briodas, arferion priodas ac ofergoelion,, tra bos Aeron Pughe, Tegwen Morris a Meinir Lloyd Jones yn sgwrsio am yr arferion o wneud hwyl neu dynnu coes yng nghefn gwlad noson cyn priodi.
Fe glywn ni Beti George yn holi'r bobl sut ddaru nhw ofyn i rywun briodi a Sh芒n Cothi yn holi Emrys a Derwenna Jones o Gaernarfon ar achlysur eu priodas Sapphire.
Emyr Jones o Gwm y Glo sydd yn cofio'n annwyl am Nain a Taid Llanberis, ac Ian Gill sydd yn holi O T Jones am ramant - Ydy o'n broses cemegol?
Hefyd ymysg y pytiau, Wali Tomos yn gorfod methu g锚m ddydd Sadwrn oherwydd fod o mewn cariad.
John Meredith fu'n holi Martha a John Davies yn 2002, y naill yn 92 a'r llall yn 95, yn dathlu penblwydd priodas platinum.
A Myrddin ap Dafydd sy'n adrodd ei gerdd am y Morris Marina a gofyn i'w gariad ei briodi.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Sassie Rees
Cariad
-
Eleri Llwyd
Cariad Cyntaf
- Am Heddiw 'Mae Ngh芒n.
- Recordiau Sain.
- 10.
-
Y Trwynau Coch
Pan Fo Cyrff Yn Cwrdd
- Trwynau Coch - Y Casgliad.
- CRAI.
- 24.
-
Iwcs a Doyle
Edrychiad Cynta'
- Edrychiad Cynta'.
- Sain.
- 7.
-
Non Parry
Colli Cariad
- C芒n I Gymru 2000.
- 8.
Darllediad
- Sul 23 Ion 2022 14:00大象传媒 Radio Cymru