Urdd, gobaith, beth?
Yr awdur Mari Emlyn, wyres Syr Ifan ab Owen Edwards yn edrych yn ôl ar ganrif o waith dyngarol yr Urdd. Mari Emlyn looks back at the Urdd's humanitarian work.
A hithau’n ganmlwyddiant sefydlu Urdd Gobaith Cymru, mae’r awdur Mari Emlyn, wyres Syr Ifan ab Owen Edwards yn craffu ar yr enw, ‘Urdd Gobaith Cymru’ ac arwyddocâd y gair ‘gobaith’ mewn termau ymarferol.
Mae Mari’n edrych ar sut y datblygodd yr elfen ddyngarol gref o fewn yr Urdd o gofio mai naws filitaraidd oedd i’r mudiad a gychwynnwyd gan ei thaid yn 1922.
Nid Syr Ifan oedd yr unig un yn berwi â syniadau yn 1922. Dyma’r flwyddyn y sefydlodd y Parchedig Gwilym Davies ei neges Heddwch ac Ewyllys Da, ac er mai mudiad iaith yn ei hanfod oedd yr Urdd i ddechrau, cafodd Syr Ifan ei ddylanwadu’n drwm gan y Parch Gwilym Davies a’i neges o heddwch. Mae Mari’n edrych ar y dylanwad hwn ar ei thaid ac ar ddatblygiad yr Urdd o fod yn fudiad gwladgarol pur i fod yn un oedd, a sy'n parhau i goleddu egwyddorion dyngarol dwfn.
Yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd, croesawyd plant o’r Almaen i Gymru gan aelodau’r Urdd, a threfnodd y mudiad gronfa ariannol er mwyn danfon sawl ambiwlans i rai o wledydd Ewrop oedd wedi cael eu llethu ar derfyn y rhyfel.
Gwelwn waddol gwaith y degawdau blaenorol ar waith yr Urdd heddiw wrth i’r mudiad groesawu ffoaduriaid o Syria, Afghanistan ac o’r Wcráin i’w gwersylloedd.
Urdd Gobaith Beth, felly? Ymunwch â Mari wrth iddi hi geisio ateb y cwestiwn hwn gan daflu goleuni ar daith a gwaith yr Urdd o’i ddyddiau militaraidd cynnar i’r presennol a’r mudiad erbyn hyn wedi datblygu’n fudiad sy’n estyn llaw i’w gyd-ddyn, pwy bynnag y bo.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 29 Mai 2022 18:30´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2
- Mer 1 Meh 2022 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru