Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Adar

Hywel Teifi Edwards yn adrodd hanes difyr Adar Treffynnon a Ted Breeze Jones yn s么n am y fr芒n goesgoch. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Adar sy鈥檔 mynd 芒 sylw John Hardy heddiw.

David Watkins sy'n adrodd hanes yr aderyn bach sy'n dweud fod y gwanwyn wedi cyrraedd - y dryw melyn (chiff chaff). Ac ma'r gwcw yn un arall sy'n ymddangos yn y gwanwyn a chyfle i glywed clip arbennig o 1949 yng nghwmni'r Dr Stephen J Williams a Hilda Bassett.

Hywel Teifi Edwards sy'n rhannu hanes difyr Adar Treffynnon, sef dwy chwaer o'r enw Kate Wynne ac Edith Wynne a oedd yn gantorion o fri yn y ddeunawfed ganrif.

Mae yna lawer o ddywediadau yn defnyddio adar, ee cyw melyn olaf neu adael y nyth, ond mi roedd Olwen Samuel yn s么n am agwedd arall o ddefnyddio enwau adar ar ferched.

Y naturiaethwr Ted Breeze Jones yn s么n am y fr芒n goesgoch, sy'n aderyn reit brin gyda chysylltiad agos 芒 Chernyw a chwedl am y Brenin Arthur.

Yn 1986 bu'r rhaglen Garddio yn recordio ar leoliad yn Llandrillo a'r cwestiwn a ofynnwyd i鈥檙 arbenigwyr yw os dylid croesawu adar i'r ardd gan fod rhai ohonynt yn dinistrio gwaith da y garddwr!

T Gwynn Jones o Dregarth ar daith i'r Alban yn cael modd i fyw wedi iddo weld brenin yr adar, yr Eryr!

Cyfres gomedi boblogaidd yn y 70au oedd "Fo a Fe" gyda Guto Roberts a Ryan Davies, a helynt Sali'r Golomen oedd yn corddi'r ddau.

Draw yn Nyffryn Conwy, mae Wili John yr hwyaden wedi dod mewn i fywyd Emrys a Wyn Wynne o Dalybont.

Cawn glywed hanes y bardd coronog, Eluned Phillips, yn trafod y tro cynta iddi gwrdd 芒'r gantores enwog o Ffrainc, Edith Piaf (Little Sparrow).

Ac yn olaf, Harold Rees a oedd yn byw mewn carafan ym Mhontarddulais, yn s么n wrth T Glynne Davies am yr holl adar yr oedd wedi bwyta. Roedd yr aderyn du yn flasus meddai!

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Chwef 2023 14:00

Darllediad

  • Sul 26 Chwef 2023 14:00