Mis Mai
Cofio digwyddiadau mis Mai yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy looking at the events of the month of May.
Mae yna hen draddodiad o ganu carolau o gwmpas Calan Mai. Canu allan yn yr awyr agored yn hytrach na mewn capel neu eglwys gyda'r pwyslais ar y tymhorau neu'r tywydd a bu Sioned Webb, Arfon Gwilym a Mair Tomos Ifans yn canu un o'r rhain ar y rhaglen, sef Mae'r Ddaear yn Glasu. Yna fe glywn ni Tecwyn Vaughan Jones o Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn trafod gwahanol draddodiadau'r mis ar y rhaglen Merched yn Bennaf nôl yn 1984.
Ar y 13eg o Fai 1839, ymosododd Merched Beca ar dollborth Efailwen, ond a wyddoch chi fod yna gysylltiad rhwng Merched Beca a Jamaica? Elwyn Evans bu'n adrodd yr hanes wrth Hywel Gwynfryn yn 2006. O bellteroedd Jamaica i Gymru y 14eg a gwaith Dafydd ap Gwilym. Dr Thomas Parry sydd yn darllen clod Dafydd i Fis Mai.
Ar y 5ed o Fai 1882, ganwyd y suffragette Sylvia Pankhurst. Mi ddaeth i'r amlwg yn ystod protestiadau 1912 a Gwenllian Carr fu'n dweud ei hanes ar raglen Nia Roberts yn 2011, yna hanes merched yn sicrhau'r hawl i bleidleisio ym Mai 1928 a'r Dr John Davies fu'n trafod ar y rhaglen nôl yn 2007.
Ar y 4ydd o Fai 1979, cafodd Margaret Thatcher ei gwneud yn Brif Weinidog – y wraig cyntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain a hi oedd pwnc soned John Idris Owen gyda’r teitl 'Ofergoelion'.
Ar drothwy Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gâr, mi fuodd John Hardy yn hel atgofion gyda Heather Jones wedi iddi ennill Unawd Cân Bop yn Eisteddfod 1967 yng Nghaerfyrddin.
'Gwn ei ddyfod, fis y mêl' medd Eifion Wyn am fis Mai. Ganwyd Eliseus Williams ar yr 2il o Fai 1867 a bu Peredur Wyn Williams yn sôn am ei Dad wrth Harri Parri ar y rhaglen Gwin y Gorffennol nôl yn y 70au.
Aled Hughes yn mynd i weld Bwa Tresi Aur Gerddi Bodnant a sgwrsio efo Cathryn Jones, un o weithwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Bwa Tresi Aur y Gerddi - y Laburnum - yn ei ogoniant yna ddiwedd Mai, dechrau Mehefin.
Ar y 14eg o Fai 2023, roedd yr actores amryddawn, Y Fonesig Siân Phillips, yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed ac yn 2021 mi fuodd Hywel Gwynfryn draw i'r Theatr Brenhinol yng Nghaerfaddon i sgwrsio gyda hi yn ystod egwyl o berfformiad o waith Samuel Beckett.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 21 Mai 2023 13:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2 & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 22 Mai 2023 18:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru & ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru 2