Mis Rhagfyr
Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy ar y thema 'Rhagfyr'. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Ar ddiwedd blwyddyn John Hardy sy'n mwynhau goreuon yr archif gan edrych yn 么l ar fis Rhagfyr gan gynnwys atgofion Dic Jones am bluo tyrcwn a'r awdur Geraint Evans yn olrhain hanes yr ehediad awyren cyntaf erioed gan y brodyr Wright gant ag ugain o flynyddoedd yn 么l. Ceir hefyd;
Alwyn Humphreys yn dadansoddi cerddoriaeth aeafol glasurol Leroy Anderson 'Sleigh Ride'; atgofion Blodwen Evans a fu'n forwyn teulu i'r Prif Weinidog Lloyd George a etholwyd ym mis Rhagfyr 1916; Julia Barnes sy'n cofio cwrdd 芒 Thywysog Phillip fis Rhagfyr 1955 pan ddaeth Caerdydd yn brifddinas; Jennie Thomas sy'n cofio llwyddiant ysgubol Llyfr Mawr y Plant; y band Plu sy'n perfformio 'C芒n y Babis' fis Rhagfyr 2013. Hanes y morwr Hugh Williams a'r llongddrylliadau ar Ragfyr y 5ed a geir gan Jane Edwards; a Ll欧r Gwyn Lewis oedd wedi ei ysbrydoli i farddoni am heuldro'r gaeaf. Rhian Morgan sy'n cofio ei phrofiad yn cyd-actio gydag Anthony Hopkins aned fis Rhagfyr; a Gary Slaymaker sydd 芒 hanes Charlie Chaplin fu farw ar ddydd Nadolig yn 1977. Sulwyn Tomos yn cofio dyddiau'r eira mawr ym mis Rhagfyr wrth ddarlledu ei filfed Stondin, ac yn nhymor y panto Dyfan Roberts sy'n cofio bod yn aelod o gast cyntaf o'r fath yn y Gymraeg.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y 大象传媒 & Corws Cenedlaethol Gymreig y 大象传媒
Sleigh Ride
-
Gwyneth Glyn
Du Ydi'r Eira
- Tonau.
- Recordiau Gwinllan.
- 3.
-
Si芒n James
Dan Nawdd Duw (Nadolig 1916)
-
405's
Suai'r Gwynt
- Nadolig The 405s.
- NA3.
- 8.
-
Meredydd Evans
Robin Goch
Darllediadau
- Sul 31 Rhag 2023 13:00大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru
- Dydd Calan 2024 18:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2