![](https://ichef.bbci.co.uk/images/ic/640x360/p08xcj46.jpg)
09/02/2025
Cyfres sy'n rhoi llwyfan haeddiannol i wyddonwyr Cymru er mwyn dathlu'r ffaith bod nifer ar flaen y gad yn eu meysydd.
Cyfres sy'n canolbwyntio ar ymdrechion gwyddonwyr Cymru sydd 芒'u bryd ar greu yfory gwell, gan geisio ateb rhai o'n problemau mwyaf dyrys a chanfod atebion i gwestiynau mwyaf heriol y bydysawd.
Mae'r cyflwynydd Elin Rhys yn cyfarfod 芒 gwyddonwyr yn eu labordai neu wrth eu gwaith maes er mwyn deall mwy am sut a pham maen nhw'n buddsoddi amser ac egni yn ymchwilio. Mae hi hefyd yn adolygu straeon am waith ymchwil hollol newydd o'r wasg wyddonol yng nghwmni newyddiadurwr y Conversation - Siriol Griffiths, ac hefyd yn edrych yn 么l ar rai o wyddonwyr y gorffennol sydd wedi ysbrydoli rhai o'n gwyddonwyr presennol mwyaf blaenllaw.
Yn y rhaglen gyntaf mae Elin yng nghwmni Dr Robert Deaves - yn wreiddiol o Borthaethwy - sydd wedi dyfeisio robotiaid i lanhau carpedi, a cheir i yrru ar eu pennau eu hunain. Yn beiriannydd sydd yn arloesi yn y maes mae'n disgrifio sut mae dyfeisiadau fel hyn yn gweithio.
Byddwn yn ymweld 芒 diwrnod agored cwmni Hyppo yn Abertawe wrth iddyn nhw arddangos cerbydau sy鈥檔 rhedeg ar Hydrogen a bydd Dr Guto Owen a Dr Emily Preedy yn s么n am y manteision er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Yn straeon y wasg, Siriol sy'n s么n am ymchwil newydd i droi bara gwastraff yn fwyd maethlon llawn protein - ac ymchwil sy'n dangos y tebygolrwydd eich bod yn yfed gormod drwy fesur hyd eich bysedd.
Ac i gloi Athro Eleri Pryse sy'n s么n am ei harwr, y seryddwr a'r Parchedig Silas Evans - awdur llyfr seryddiaeth Cymraeg n么l yn y 1800au.
Ar y Radio
Darllediad
- Yfory 16:00大象传媒 Radio Cymru