Main content

Cerdd i Dryweryn gan Aneirin Karadog

Bardd y Mis, Aneirin Karadog yn darllen ei gerdd i nodi 50 mlynedd ers boddi Capel Celyn.

Cerdd Arall am Dryweryn

Fan hyn mae llyn llonydd
i’r llygad estron.
Fan hyn mae llyn llonydd
i’r llygad Cymreig.
Llyn arall yn y clytwaith sy’n harddu’r
anialwch gwyrdd, tu hwnt i’r tai
yn y Wales o werth,
lle mae’r bunt yn goleuo’r dydd.

Efyrnwy. Elan. Epynt a’i lyn o waed…

Ond fan hyn ein dafnau ni
fu’n cronni fesul litr:
Diferion o farddoniaeth
yn pwyso’n anesmwyth ar waelodion
ein cydwybod. Ffrydia ein dirywiad
fesul gair fan hyn.

Fan hyn, mae pob enaid alltud,
fan hyn, mae’r sawl a drodd ei gefn
a’r sawl a gaeodd ei lygaid
rhag gweld ein Aberhenfelen ein hunain.
Fan hyn, mae pawb a dorrodd ei dafod
a’i luchio ar fachyn ei wialen bysgota
yn abwyd i geisio cnoiad gan bysgod y byd bas.

Ond y dwfn du hwn yw’r llwfrdra fu’n cronni,
Eco’r Gymraeg sy’n crychu wyneb y dŵr a’i oerfel
yw’r croen gŵydd o weld pentre arall yn mynd…

Wrth i ni geisio’r tir sych rhwng llynnoedd
a cheisio peidio glwychu’n traed,
ein gwaith ni oll dan wawr arall
yw ceisio peidio a boddi
ac yna dysgu eraill sut i nofio,
rhag ofn…

Aneirin Karadog – Bardd y Mis – Hydref 2015

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o