Cof Cenedl gan Gruffudd Owen
Cof Cenedl
Gawn ni dwrio drwy’r archif
a gloddesta fel pethau hurt ar drugareddau’r hen bobol?
Gawn ni wirioni’n boitsh ar ryw stori ddim byd
ac ailddysgu ymadroddion o’n plentyndod?
Gawn ni alw’r radio’n ‘weirlas’?
Gawn ni feddwi ar ffraethineb ein neiniau
a dawn dweud yr hen deidiau
cyn sobri’n sydyn
ar ganol gneud panad
wrth i leisiau’r meirwon
roi cig a gwaed ar esgyrn ein hanes?
Gawn ni anwylo ein ’nialwch
a hidio dim am y llwch
na’r sawl sy’n ein cyhuddo
o fod yn hen ffasiwn fel het?
Gawn ni hiraethu heb gywilydd
am lefydd na welsom erioed?
Gawn ni ymdrybaeddu fel moch
yn y storws sydd ym mhob stori,
yn y dweud mawr sy’n y siarad mân?
Gawn ni feddwi ar donfeddi ddoe
a gweld y gwir wrth glywed y geiriau?
Dewch, dewch i dwrio drwy’r archif.
Rydan ni wedi dirwesta’n rhy hir
tra’n llowcio sothach pobol eraill.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Gruffudd Owen—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mawrth 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Mwy o glipiau Penblwydd Hapus Cofio!
-
Atgofion Aled Glynne Davies
Hyd: 02:09
Mwy o glipiau Cofio
-
Taith Cyntaf Beti Rhys
Hyd: 06:02
-
Cariad cynnar ar Lwybr y Mynydd
Hyd: 02:33
-
Ian Morris y boi soprano
Hyd: 01:14
-
Tybed beth oedd hoff emyn Ryan Davies?
Hyd: 04:16