Main content

Pontio gan Aneirin Karadog

«Wylit, wylit...» a welaf
heno yn pontio pob haf
yn ôl hyd at chwe deg naw,
hyd weiniad cledd y deunaw,
y deunaw nas adwaenir
o dan ganrifoedd o dir -
llu a welai’n Llyw Olaf
a’i goron e’n gaer un haf…

Gwelaf, mi welaf ei wallt
yn nhyrau geiriau Gerallt:
ôl ei wae ymhob blewyn,
gwaed y gad mewn llygaid gwyn,
neb o wyneb arweinydd,
hwyl i dorf mewn golau dydd
ar bolyn y rhaib olaf;
heb fri daw’n T’wysog ni’n gnaf.

Gwelaf, gwelaf hyn i gyd;
ril o haf Carlo hefyd
a’i arfwisg yng Nghaernarfon
yn hawlio toll y wlad hon.
Ond un dyn o hyd yw e,
boi hirwyntog y breintie,
mab i fam y bu i foment
o swm mawr ei roi’n semént

ein cof byw. Nawr caf bont,
geiriau’n rhaffau ar draphont
o lan i lan a luniant
i’n ceir (a Gerallt a’i cant)
fynd drosti hi’n ddiwahardd.
Trown hi’n bont o eiriau’n bardd
i groesi’r Hafren `leni
yn gân well i’n T’wysog ni.

Aneirin Karadog

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...