Main content

Cyfansoddi: Cymru 2023

Gwnewch gais nawr o Cyfansoddi: Cymru 2023.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒 yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, cael ei pherfformio a’i recordio gan 大象传媒 NOW yn Neuadd Hoddinott y 大象传媒 ym Mae Caerdydd.

Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o'r radd flaenaf! Eleni, bydd y prosiect yn cael ei arwain gan ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft, y Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins a’r Cyfansoddwr Cyswllt Sarah Lianne Lewis.

Dyddiadau
Diwrnodau Gweithdy: 23 & 24 Ionawr 2023
Ymarferion a Chyngerdd: 6 & 7 Mawrth 2023

Sut mae gwneud cais?

Gwahoddir cyfansoddwyr i gyflwyno sgôr i'w hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru erbyn dydd Llun 7 Tachwedd 2022.

Bydd 6-8 sgôr yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod erbyn 27 Tachwedd 2022.

Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
• Rhai sydd wedi’u geni, sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru
• Dros 18


Gellir dod o hyd i ganllawiau, meini prawf a manylion cyflwyno:

Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda’r ddolen, mae croeso i chi gysylltu â now@bbc.co.uk