1. Pwy sy'n cystadlu?
Mae'r gystadleuaeth yn agored i grwpiau (o nifer resymol) neu unigolyn sydd yn byw yng Nghymru, ac sydd yn canu yn unrhyw arddull roc/ hip-hop/ gwerin/ acwstig/ jazz/ pop/ gwlad/ bl诺s etc. ond dan yr amodau isod
- Rhaid i'r unigolyn neu o leiaf hanner yr aelodau mewn gr诺p fod yn 21 mlwydd oed neu iau, a rhaid i bob unigolyn fod dros 16 mlwydd oed.
- Nid yw'r Grwpiau neu'r unigolyn wedi rhyddhau albwm, sengl neu EP yn fasnachol (ar werth yn y siopau). Gall y rhai sydd wedi cyfrannu traciau at CDs aml gyfrannog gystadlu.
- Ni chaniateir i aelodau staff 大象传媒 na'u perthnasau gystadlu, nac ychwaith unrhyw berthynas agos neu staff i fudiadau neu unigolion sydd yn gysylltiedig a'r gystadleuaeth
- Mae'n bosibl y gofynnir i ymgeiswyr brofi oedran, enw a chyfeiriad a hawl i gystadlu.
- Gofynnir am ganiat芒d rhiant neu warcheidwad pan fo'n anghenraid, oherwydd cyfraith gwlad neu ganllawiau'r 大象传媒.
2. Sut i gystadlu?
Caiff dwy rownd gyntaf y gystadleuaeth eu cynnal cyn Chwefror 20 2012, a dylai unrhyw rai sy'n dymuno cystadlu gofrestru efo'u Menter Iaith leol erbyn 1 Ionawr. Gellir gweld rhestr llawn Mentrau Iaith Cymru ar eu gwefan . Rhaid i pob band artist / unigolyn sy'n dymuno cystadlu ddarparu enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt eu haelodau (caiff rhain eu defnyddio ar gyfer y gystadleuaeth hon yn unig).
Trefniant y Mentrau iaith lleol fydd dyddiad cau y gystadleuaeth, a gall amrywio o ardal i ardal.
Mae'n rhaid i bob band chwarae 3 c芒n Gymraeg. Mae'n rhaid i o leiaf un g芒n fod yn gwbl wreiddiol (cerddoriaeth a geiriau), ond caniateir i'r gan gyntaf a berfformir fod yn 'cover version' o unrhyw gan gyda geiriau Cymraeg. Ni fydd y g芒n yma yn cael ei darlledu ar y radio os fydd y band yn llwyddiannus yn y ddwy rownd gyntaf.
Bydd rhaid i'r gan /caneuon gwreiddiol fod yn addas i ddarlledu ar y radio (hynny yw, bod y iaith a'r cynnwys yn cyd-fynd a safonau golygyddol y 大象传媒). Am ragor o fanylion ewch i .
3. Y Rowndiau
Bydd pedair rownd i'r gystadleuaeth:
Gall nifer y rowndiau neu nifer y cystadleuwyr ym mhob rownd gael eu haddasu os yw nifer y cystadleuwyr yn anigonnol.
Rownd 1 (Y Rowndiau Sirol)
Yn y rowndiau sirol mae cystadleuwyr yn perfformio tair c芒n yn fyw ac yn cystadlu yn erbyn cystadleuwyr eraill o'r un sir. Bydd y ddau fand/unigolyn buddugol o bob sir yn mynd ymlaen i'r rownd rhanbarthol. Y Mentrau Iaith sydd yn trefnu'r rowndiau sirol, a byddant yn cael eu cynnal rhwng Rhagfyr 2011 a Ionawr 2012.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan feirniaid diduedd (o leiaf 2) ar sail yr alawon, y geiriau, doniau cerddorol a'r argraff gyffredinol a wnaeth y perfformiad. Bydd un beirniad wedi ei benodi i fod yn gadeirydd, ac mewn unrhyw bleidlais gyfartal gan Gadeirydd y beirniaid fydd y gair olaf.
Os nad oes digon o fandiau/ unigolion wedi dangos diddordeb / yn gymwys i gystadlu mewn un sir mae'n bosib y bydd y Mentrau Iaith yn cydweithio i ffurfio rownd fydd yn cynnwys mwy nag un sir. Os na fydd rowndiau sirol mewn ardal, weithiau gall cystadleuwyr fynd yn syth i'r rownd rhanbarthol. Penderfyniad y Fenter Iaith leol fydd hyn.
Rownd 2 (Y Rowndiau Rhanbarthol)
Yn y rowndiau rhanbarthol mae'r bandiau/unigolyn yn perfformio tair c芒n yn fyw ac yn cystadlu yn erbyn bandiau/unigolion eraill o'r un rhanbarth (a restrir isod). Mae'r rowndiau rhanbarthol yn cael eu cynnal cyn 20 Chwefror 2012. Mae tri band llwyddiannus o bob rhanbarth yn mynd i Rownd 3 (y Rownd Gynderfynol). Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis, fel yn Rownd 1, gan feirniaid diduedd (o leiaf 2) ar sail yr alawon, y geiriau, doniau cerddorol a'r argraff gyffredinol a wnaeth y perfformiad. Bydd un beirniad wedi ei benodi i fod yn gadeirydd, ac mewn unrhyw bleidlais gyfartal gan Gadeirydd y beirniaid y gair olaf.
Mae 3 rhanbarth sef:
- Y Gogledd
- Y De Ddwyrain
- Y De Orllewin
Bydd t卯m cynhyrchu C2, Radio Cymru yn recordio'r cystadleuwyr yn perfformio'n fyw yn y rownd hon er mwyn darlledu'r perfformiad yn ystod Rownd 3, y rownd gynderfynol. Mae t卯m cynhyrchu C2 hefyd yn tynnu lluniau i'w rhoi ar wefan C2 - .
Hawliau'r cystadleuwyr.
Mae'r cystadleuwyr, wrth gyflwyno defnyddiau i'r 大象传媒 (yn cynnwys lluniau, testun, graffeg, fideo neu sain) yn rhoi i'r 大象传媒 hawl, di-d芒l, i ddefnyddio'r deunydd (gan gynnwys eu newid a'u haddasu oherwydd rhesymau golygyddol a gofynion gweithredol) ar gyfer gwasanaethau'r 大象传媒 ac unrhyw gyfrwng byd eang (gan gynnwys gwefannau'r 大象传媒 sydd yn agored i ddefnyddwyr rhyngwladol). Mewn rhai amgylchiadau gall y 大象传媒 rannu eich cyfraniad gyda phartneriaid dibynadwy eraill yn ogystal.
Y cystadleuwyr fydd yn parhau yn berchnogion hawlfraint eu cyfraniad, ac nid yw'r caniat芒d a roddir i'r 大象传媒 yn unigryw, felly gall y cystadleuydd barhau i ddefnyddio deunyddiau fel y dymunant gan gynnwys caniat谩u i eraill ei ddefnyddio.
Gofynnir i'r cystadleuydd/wyr gadarnhau fod unrhyw ddefnyddiau a gyflwynir ganddynt ac a ddefnyddir gan y 大象传媒 (a.) yn waith gwreiddiol o'u heiddo hwy, ac nad yw'n difr茂o neb nac yn torri deddfau y D.U. (b.) fod ganddynt yr hawl i ganiat谩u i'r 大象传媒 eu defnyddio fel y nodir uchod ac (c.) fod y cystadleuydd/wyr wedi sicrhau caniat芒d unrhyw berson y gellir ei adnabod (neu ei riant neu ei warcheidwad os ydynt dan 16 oed) yn y defnyddiau.
Bydd y 大象传媒 fel arfer yn cydnabod cyfranwyr wrth eu henw, oni bai fod cais iddynt beidio, ond oherwydd anawsterau cynhyrchiad nid yw hynny bob amser yn bosibl. Ar adegau gallai'r 大象传媒 orfod cysylltu gyda'r cystadleuwyr oherwydd gofynion gweinyddol neu i gadarnhau elfennau yn ymwneud a'r defnyddiau neu brosiect benodol. Y mae gwybodaeth lawn yng nghylch pryd a sut y bydd y 大象传媒 yn cysylltu a chi i'w gael dan y teitl Polisi Preifatrwydd ar www.bbc.co.uk , ond gall amrywiadau lleol fodoli.
Os nad yw cystadleuwyr yn cytuno i roi'r caniatad a ddisgrifir uchod i'r 大象传媒, byddai'n well iddynt beidio cystadlu.
Mae'n rhaid i'r holl ganeuon fod yn addas i'w darlledu ar y radio (hynny yw, bod y iaith a'r cynnwys yn weddus).
Y Mentrau Iaith sydd yn trefnu'r rowndiau rhanbarthol a darperir system sain (PA) addas ar gyfer y perfformiadau hyn.
Bydd angen i bob un o'r cystadleuwyr llwyddiannus benderfynu pa g芒n mae nhw am ei ddefnyddio ar gyfer gweddill y gystadleuaeth cyn diwedd noson Rownd 2.
Gall y 大象传媒 neu'r Mentrau Iaith addasu nifer y rowndiau neu nifer y cystadleuwyr ym mhob rownd os yw nifer y cystadleuwyr yn annigonol.
Rownd 3 (Y Rownd Gynderfynol)
Mae Rownd 3 yn cael ei darlledu ar raglen C2 ar 大象传媒 Radio Cymru ar Fawrth 13 ac 15 2012, rhwng 8pm a 10pm. Darlledir caneuon o ddewis y cystadleuwyr a recordiwyd yn fyw yn ystod y Rowndiau Rhanbarthol. Darlledir nifer o'r caneuon bob nos ar C2, a bydd y drefn wedi ei phenderfynu ar hap.
Bydd tri beirniad wedi eu penodi gan dim cynhyrchu C2 yn bwrw llinyn mesur ar y perfformiadau gan fesur y perfformiadau ar sail, alaw, geiriau, dawn gerddorol ac argraff gyffredinol.
Y gynulleidfa fydd yn penderfynu pwy sydd yn ennill yn y rownd hon drwy bleidlais ffon a neges testun. Bydd y ddau enillydd bob nos yn ennill yr hawl i gystadlu yn y rownd derfynol. Os bydd y bleidlais yn gyfartal bydd y beirniaid yn penderfynu pwy yw'r enillydd, a bydd gan gadeirydd y beirniaid air terfynol.
Bydd y llinellau pleidleisio yn agor am 21.30, ac yn cau am 23.30. Bydd yr enillwyr yn cael ei gyhoeddi ar 么l 24.15. Gellir pleidleisio drwy alwad ffon a thrwy ddanfon neges destun. Byddwn yn monitro ac yn cyfyngu'r nifer o bleidleisiau a geir o un rhif ffon/ ffon symudol, (mwyafrif o 3 pleidlais), er mwyn sicrhau tegwch. Bydd rhaid i'r rhai sy'n pleidleisio sicrhau caniat芒d yr un sy'n talu'r biliau ffon. Os bydd rhywun yn galw cyn i'r llinellau agor, neu ar 么l iddynt gau ni fydd y bleidlais yn cael ei chyfri a gallai'r galwr orfod talu am yr alwad.
15 ceiniog y funud fydd cost uchaf galwadau o linell BT ond gall y gost amrywio gan gwmn茂au eraill a gall fod yn sylweddol uwch o ffonau symudol, a chost arferol neges testun fydd cost pleidleisio drwy neges testun. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen am y rheolau pleidleisio ffon - canllawiau pleidleisio 2011.
Rhif cyfradd premiwm | Tariff | O2 | Orange | T-Mobile | Vodafone | 3 | Virgin |
09015 2 | 15c o linell BT | 50c | 100c | 75c | 50c | 72c | 70c |
Mae'r tabl yma ar gyfer pwrpas dangosol yn unig. Darparwyd y wybodaeth gan gwmn茂au ffonau symudol 24/03/2011.
Os oes problemau yng nghylch y bleidlais ffon/testun, gall y 大象传媒 newid y rheolau pleidleisio fel bod yr enillydd yn cael ei benderfynu ar sail marciau'r beirniad yn unig.
Os yw band/unigolyn yn methu parhau yn y gystadleuaeth, gwahoddir y trydydd band aflwyddiannus gyda'r marc uchaf o'r rowndiau rhanbarthol drwy Gymru i gymeryd eu lle yn y rownd gynderfynol. Os nad yw'r band hwnnw yn gallu cymeryd rhan, bydd y band aflwyddiannus gyda'r ail farc uchaf o'r rowndiau rhanbarthol drwy Gymru yn cael gwahoddiad i gymeryd rhan yn y rownd gynderfynol.
Gall nifer y rowndiau neu nifer y cystadleuwyr ym mhob rownd gael eu haddasu os yw nifer y cystadleuwyr yn annigonol.
Rownd 4 (Y Rownd Derfynol)
Bydd bandiau/unigolion sydd yn cyrraedd y rownd derfynol yn cael y cyfle i fynd i stiwdio recordio am un diwrnod i recordio c芒n (sef y g芒n a ddarlledwyd yn Rownd 3). Bydd angen i'r bandiau/unigolion gadw digon o amser yn rhydd rhwng Rownd 3 a Rownd 4 er mwyn gallu recordio.
Bydd y Rownd Derfynol yn cael ei darlledu ar raglen C2 ar Radio Cymru rhwng 8pm a 10pm ar Ebrill 18, 2012. Yn ystod y rownd yma byddwn yn darlledu'r caneuon recordiwyd gan y 4 band yn y stiwdios.
Bydd tri beirniad diduedd wedi eu penodi gan dim cynhyrchu C2 yn bwrw llinyn mesur ar y perfformiadau gan fesur y perfformiadau ar sail, alaw, geiriau, dawn gerddorol ac argraff gyffredinol.
Y gynulleidfa fydd yn penderfynu pwy sydd yn ennill y rownd derfynol dwy bleidlais ffon a neges testun. Os bydd y bleidlais yn gyfartal bydd y beirniaid yn penderfynu pwy yw'r enillydd, a bydd gan gadeirydd y beirniaid air terfynol.
Bydd y llinellau pleidleisio yn agor am 21.30, ac yn cau am 23.30. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 么l 24.15. Gellir pleidleisio drwy alwad ffon a thrwy ddanfon neges destun. Byddwn yn monitro ac yn cyfyngu'r nifer o bleidleisiau a geir o un rhif ffon/ ffon symudol, (mwyafrif o 3 pleidlais), er mwyn sicrhau tegwch. Bydd rhaid i'r rhai sy'n pleidleisio sicrhau caniat芒d yr un sy'n talu'r biliau ffon. Os bydd rhywun yn galw cyn i'r llinellau agor, neu ar 么l iddynt gau ni fydd y bleidlais yn cael ei chyfri a gallai'r galwr orfod talu am yr alwad.
15 ceiniog y funud fydd cost uchaf galwadau o linell BT ond gall y gost amrywio gan gwmn茂au eraill a gall fod yn sylweddol uwch o ffonau symudol, a chost arferol neges testun fydd cost pleidleisio drwy neges testun. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen am y rheolau pleidleisio ffon. Os oes problemau yng nghylch y bleidlais ffon/testun, gall y 大象传媒 newid y rheolau pleidleisio fel bod yr enillydd yn cael ei benderfynu ar sail marciau'r beirniad yn unig.
Os oes problem gyda'r llinellau ffon ar y noson bydd y 大象传媒 yn asesu a oes angen aildrefnu'r rownd neu angen dibynnu ar farn y panel beirniaid yn unig.
Os oes band/unigolyn yn methu parhau yn y gystadleuaeth rhwng y rownd gynderfynol a'r rownd derfynol, ni fydd band arall yn cael gwahoddiad i gymeryd eu lle. Bydd y gystadleuaeth yn parhau gyda nifer llai o fandiau.
4. Y Gwobrau
Bydd y gr诺p/unigolyn sy'n ennill yn cael:
- cytundeb i recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru (fel arfer 3 c芒n)
- perfformio mewn Gwyl fawr genedlaethol megis Maes B, yr Eisteddfod Genedlaethol
- cael erthygl 'tudalen-lawn' yn un o rifynnau o gylchgrawn 'Y Selar'
- sesiwn luniau (photoshoot) hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol
- cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
Gall y gwobrau amrywio yn ddibynol ar amgylchiadau tu hwnt i reolaeth y 大象传媒.
Bydd disgwyl i'r cystadleuwyr fod ar gael ar y dyddiadau a gynigir iddynt ar gyfer y gwobrau - nid cyfrifoldeb C2 Radio Cymru, Mentrau Iaith Cymru nac unrhyw gwmni arall fydd aildrefnu dyddiad. Does dim modd rhoi arian yn lle un o'r gwobrau a restrir uchod a does dim gwobr ariannol ynghlwm a'r gystadleuaeth.
Ni fydd C2 Radio Cymru, Mentrau Iaith Cymru nac unrhyw gwmni teledu yn talu unrhyw gostau ychwanegol i'r cystadleuwyr gogyfer y gwobrau (h.y. costau teithio, llety ayyb)
Ni ellir gwerthu na throsglwyddo'r gwobrau.
5. Rheolau eraill
Bydd disgwyl i gynrychiolydd o bob band arwyddo datganiad yn dweud eu bod wedi darllen a deall y termau a'r rheolau uchod a'r canllawiau yngl欧n 芒 pleidleisio.
Bydd disgwyl i'r band buddugol gyd weithredu yn unrhyw gyhoeddusrwydd yn dilyn y gystadleuaeth. Rhaid i'r enillydd fod yn barod i gydweithredu gyda Adran Farchnata y 大象传媒, os oes galw, gan roi caniat芒d i ddefnyddio enwau a lluniau aelodau'r band i bwrpas marchnata a hyrwyddo.
Bydd disgwyl i bob beirniad arwyddo ffurflen yn datgan eu parodrwydd i fod yn ddi-duedd.
Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ganslo neu addasu'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os yw hynny yn olygyddol angenrheidiol, neu os oes amodau a newidiadau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.
Os oes cwestiynau am Rownd 1 a 2 dylid cysylltu 芒'r Fenter Iaith leol, os yw'n ymwneud 芒'r Rowndiau 3 a 4 dylid cysylltu ag C2, 大象传媒 Radio Cymru (gellir ebostio c2@bbc.co.uk).
Y mae gan y 大象传媒'r hawl i wahardd unrhyw un o'r gystadleuaeth os ydynt yn torri unrhyw un o reolau'r gystadleuaeth, neu os ydynt yn euog o geisio twyllo neu os bydd eu cyfraniad yn anhyglyw. Mae gan y 大象传媒 hefyd yr hawl i ohirio neu ddileu'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os bernir fod hynny'n angenrheidiol neu os yw amgylchiadau tu hwnt i'w reolaeth yn gorfodi hynny.
Ni all y 大象传媒, eu his gontractwyr, ei hasiantau a/neu ei hisadranau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am nam technegol, neu ddiffyg neu unrhyw broblem arall ynglyn a'r rhwydwaith ffon, neu'r llinnell, y system ffon, y system gyfrifiadurol, y cyflenwr cyfrifiadurol na dim arall allai arwain at gollir bleidlais neu fethu cyfri'r bleidlais. Ni ddefnyddir unrhyw fanylion personol gan y 大象传媒 i unrhyw bwrpas heblaw gweinyddu'r gystadleuaeth hon, ac ni chyhoeddir hwy ac ni roddir hwy i eraill heb ganiatad penodol. Gellir darllen Polisi Prifatrwydd y 大象传媒 ar www.bbc.co.uk
Gweinyddir y gystadleuaeth gan y 大象传媒 ac mae'n atebol i ddeddf gwlad Lloegr a Chymru.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.