大象传媒

plannu coed

05 Rhagfyr 2009

Dewch i blannu Record y Byd

Ydych chi'n barod am rywbeth sy'n torri tir newydd?

I helpu i ddathlu'r Wythnos Goed Genedlaethol, mae 大象传媒 Llefydd i Natur wedi ymuno 芒 Guinness World Records ar gyfer 'Tree' O'r Gloch: her genedlaethol i blannu mwy na 653,143 o goed o fewn awr (11am - 12 hanner dydd ar 5ed Rhagfyr).

Mae hynny'n llawer o goed mewn rhyw awr fach. Dyna pam fod angen cymaint o bobl, ysgolion, gweithleoedd a grwpiau cymunedol 芒 phosibl ar 'Tree' O'r Gloch i gymryd rhan.

Gall pobl naill ai blannu coeden, gwrych neu goeden ffrwythau frodorol yn eu gardd, neu gallant ymuno ag un o'r digwyddiadau sydd wedi'u trefnu mewn lleoliadau amrywiol ledled y DU.

Dylai'r bobl sy'n plannu ystyried yn ofalus a yw'r goeden y maent yn ei phlannu yn addas ar gyfer yr ardal y caiff ei phlannu ynddi. Mae rhagor o wybodaeth am blannu coeden addas mewn ardal addas ar gael ar ein gwefan.

Ac os ydych yn plannu gartref, tynnwch lun digidol o'ch hun yn plannu eich glasbren, neu gofynwch am help ffrind, ac anfonwch ef at y t卯m Llefydd i Natur fel y gall gyfrif tuag at y record. Ceir rhagor o fanylion am sut i wneud hyn ar y wefan.

Mae dwy ffordd y gallwch gymryd rhan.

Mae'n rhaid i bob coeden gael ei phlannu rhwng 11am a 12 hanner dydd. Felly dewch o hyd i'ch esgidiau glaw, torchwch eich llewys a dewch i'n helpu i dorri Record Byd Guinness newydd.

Gweithgareddau plannu coed ar gyfer ysgolion

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.