大象传媒

Taith y Saith Traeth Radio Cymru

Hywel Gwynfryn a Gareth Owen, cyfarwyddwr Pafiliwn Rhyl, ar draeth y Rhyl

Hywel Gwynfryn a Gareth Owen, cyfarwyddwr Pafiliwn Rhyl, ar draeth y Rhyl

I ddechrau Taith Haf 大象传媒 Cymru 2011, bydd 大象传媒 Radio Cymru yn pacio'i fflip-fflops ac eli haul ac yn ei throi hi am y traeth - saith traeth mewn gwirionedd, a'r cwbl mewn diwrnod a hanner. Ar ddydd Gwener, Mehefin 10, mae'r cyflwynydd Hywel Gwynfryn yn anelu at ymweld 芒 saith o draethau, llawer ohonyn nhw yn hoff draethau o ddyddiau plentyndod cyflwynwyr eraill yr orsaf.

Ar Daith y Saith Traeth, bydd Hywel Gwynfryn yn ymweld 芒 Rhyl, Bae Colwyn, Benllech, Porthmadog, Aberystwyth, Cei Newydd ac Aberaeron. Mae gan Hywel ei hun atgofion hoff o draeth Benllech yn Sir F么n.

"Mae gen i go cynnar o fynd hefo Nhad a Mam ar wyliau i westy Gwern y Wylan yn Benllech... Ac roeddwn ni yn reidio beic o Langefni hefyd, yn griw o hogia', brechdanau mewn bag ar y nghefn, a rheiny yn socian erbyn cyrraedd a pilio'r papur brown oddi arnyn nhw i'w bwyta.. yna parcio'n beics a rhedeg i'r m么r."

Bydd Hywel yn cyfrannu at holl raglenni'r dydd o'r gwahanol draethau.

Fel un o sipsiwn T. Llew Jones yn Tan ar y Comin-' ...

, 12 Hydref 2012

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.