Diweddarwyd y dudalen: 5 Awst 2019
Mae ychwanegu yn ffordd dda o gofio pethau ar gyfer wedyn a mynd yn syth at y cynnwys sy鈥檔 bwysig i chi.
Weithiau, byddwn yn defnyddio'r pethau rydych yn eu hychwanegu i argymell cynnwys arall y byddech, yn ein tyb ni, yn ei hoffi. Ac weithiau byddwn yn rhoi hysbysiadau i chi amdanyn nhw, fel pennod newydd o raglen rydych wedi鈥檌 hychwanegu. Os ydych yn dymuno, gallwch ddewis peidio 芒 derbyn yr hysbysiadau yma.
Fel arfer, mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu pethau. Y rheswm am hynny yw er mwyn i ni allu cofio popeth rydych wedi鈥檌 ychwanegu ac i chi gael mynediad ato ar unrhyw ddyfais.
Sut ydw i'n ychwanegu pethau?
Gallwch ychwanegu unrhyw beth sydd 芒 botwm Ychwanegu wrth ei ymyl, gan gynnwys:
- Rhaglenni teledu a radio
- Clipiau Fideo a Sain
- Pynciau newyddion (yn yr ap 大象传媒 News yn unig)
- Pynciau chwaraeon
- Ryseitiau
Gallwch ychwanegu gynifer ag y dymunwch. Ond, dim ond 10 pwnc y gallwch eu hychwanegu yn yr ap 大象传媒 News. Ymddiheuriadau am hynny.
Sut mae gweld neu dynnu pethau rydw i wedi鈥檜 hychwanegu?
Mae gan wahanol rannau o鈥檙 大象传媒 eu hadrannau eu hunain ar gyfer y pethau rydych wedi鈥檜 hychwanegu. Er enghraifft, yn iPlayer, maent yn cael eu hychwanegu at yr adran Fy Rhaglenni. Yn 大象传媒 Sport maent yn cael eu hychwanegu at yr adran My Sport.
Gallwch gael gafael ar bethau rydych wedi鈥檜 hychwanegu a鈥檜 tynnu i ffwrdd ymhob adran. Ond cofiwch y bydd tynnu unrhyw beth yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw argymhellion na hysbysiadau cysylltiedig.
Alla i ddim dod o hyd i鈥檙 pethau rydw i wedi鈥檜 hychwanegu
Gwnewch yn si诺r eich bod wedi mewngofnodi. Os nad ydynt yn ymddangos wedyn, efallai eich bod wedi鈥檜 hychwanegu pan nad oeddech wedi'ch mewngofnodi.
Sut mae rhannu'r pethau rydw i wedi鈥檜 hychwanegu?
Gallwch rannu pethau drwy ddefnyddio'r botwm Rhannu.