Diweddarwyd: 2 Mehefin 2020
Pan rydych chi鈥檔 rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni, byddwn ni鈥檔 rhoi gwybod i chi am ba mor hir y byddwn ni鈥檔 ei chadw. Os na fyddwn ni'n dweud unrhyw beth, rydyn ni'n cadw at yr egwyddorion hyn:
- Dim ond cyhyd ag y byddwn yn gwneud y gweithgareddau y dywedwyd wrthych amdanyn nhw y byddwn ni鈥檔 cadw eich gwybodaeth
- Rydyn ni鈥檔 meddwl am ba fath o wybodaeth ydyw, faint a gasglwyd, pa mor sensitif y gallai fod ac unrhyw anghenion cyfreithiol
- Rydyn ni鈥檔 cynllunio ein gwasanaethau fel nad ydyn ni鈥檔 cadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach nag sy'n rhaid i ni
- Rydyn ni wastad yn meddwl am risgiau posib unrhyw un yn defnyddio neu'n rhannu'r wybodaeth yma heb ganiat芒d
- Efallai y byddwn ni鈥檔 cau eich cyfrif 大象传媒 os nad ydych chi wedi ei ddefnyddio yn y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn ni鈥檔 anfon e-bost atoch i ddweud ein bod ni鈥檔 bwriadu gwneud hynny cyn i ni ddileu unrhyw beth, felly ewch i鈥檆h mewnflwch i weld os ydyn ni wedi anfon unrhyw e-byst yngl欧n 芒 hyn
Beth os oes gen i gyfrif 大象传媒?
Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi i ni fel rhan o'ch cyfrif 大象传媒 tra bod gennych gyfrif gyda ni. Os ydych chi'n dileu eich cyfrif 大象传媒, yna bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu yn syth a daw'r wybodaeth sy'n weddill yn ddienw. Efallai y byddwn yn ei defnyddio i'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Beth os ydw i wedi anfon rhywbeth wnes i ei greu?
Os ydych chi wedi anfon unrhyw greadigaeth ynghyd 芒 gwybodaeth bersonol, cymerwch olwg ar ein Telerau Defnyddio i weld sut rydyn ni'n storio rhain.