Diweddarwyd: 20 Gorffennaf 2023
Cofiwch fod yr hyn rydych chi ac eraill yn ei bostio yn safbwyntiau personol, ac nid safbwyntiau’r ´óÏó´«Ã½.
Rydyn ni wrth ein bodd pan rydych chi’n postio sylwadau ac yn llwytho creadigaethau. Diolch am ymuno â ni, ond plîs, peidiwch ag anfon unrhyw beth cas, digywilydd neu anghyfreithlon.
Yn fwy penodol, peidiwch â phostio dim:
- Sy’n amhriodol (sarhaus, ymosodol neu’n cas). Cofiwch fod gennym bolisi dim goddefgarwch o ran gamdriniaeth bersonol rhwng defnyddwyr
- Sydd ddim yn berthnasol (o ran y cynnwys gwreiddiol neu’r sgwrs bresennol). Mae hyn yn cynnwys gwneud sylwadau at ddibenion taflu’r sgwrs oddi ar ei echel gyda’r bwriad o drafod pwnc arall
- Sy’n tarfu neu sy’n difetha’r sgwrs i eraill wrth ei bostio gyda’r bwriad o darfu
- Sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol (eich manylion chi neu rywun arall)
- Sy’n rhoi plant neu gyfranwyr eraill mewn perygl
- Sy’n anghyfreithlon neu yn annog gweithgaredd anghyfreithlon
- Sy’n ddifrïol (yn niweidiol i enw da rhywun)
- Sy’n ddirmyg llys (unrhyw beth allai effeithio ar ganlyniad achos llys)
- A allai fod yn gam-wybodaeth neu'n anwybodaeth niweidiol
- Sy’n tarfu ar hawliau unrhyw un (gan gynnwys hawliau preifatrwydd)
- A gafodd ei wneud gan rywun arall, neu sy’n copïo creadigaeth rhywun arall
- Sydd wedi ei bostio er lles ariannol (hysbysebu, nawdd, ayyb.)
- Nad yw yn Saesneg (nid yw’r Gymraeg na’r Wyddeleg yn cael eu cefnogi)
- Sy’n cynnwys sbam neu lifeiriant (hynny yw, ailadrodd negeseuon tebyg neu ddiangen mewn ffordd sy'n tarfu)
- Sydd â dolenni i lawrlwythiadau (gan gynnwys PDFs), unrhyw beth a allai gynnwys feirysau, ysbïwedd, llen dalu etc., neu gynnwys sydd angen mewngofnodi
- Sy’n torri ein rheolau ar etholiadau a refferenda yn ystod cyfnodau o ymgyrchu swyddogol. Felly, dim defnyddio sloganau gwleidyddol, dim pleidleisio, dim annog eraill i bleidleisio mewn ffordd arbennig a dim sôn am bwy wnaethoch chi bleidleisio amdano ar y diwrnod pleidleisio ei hun
- Sy’n dynwared rhywun arall – yn enwedig defnyddiwr arall – heb fwriad i darfu
- Sy’n cael ei bostio o gyfrif a grëwyd er mwyn goresgyn cyfyngiadau cymedroli neu i achosi aflonyddwch
- Nad yw’n cydymffurfio â gweddill ein Telerau Defnyddio.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth a gyflwynwyd wedi torri'r rheolau hyn, defnyddiwch y nodwedd adrodd o fewn yr hyn a gyflwynir. Ni ddylech roi gwybod am rywbeth oherwydd eich bod yn anghytuno â’i safbwyntiau’n unig.