Beth yw鈥檙 Cenhedloedd Unedig?
Mudiad rhyngwladol yw鈥檙 Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd yn 1945. Mae鈥檙 gwledydd sy鈥檔 aelodau wedi gweithio gyda鈥檌 gilydd i sicrhau heddwch a diogelwch byd-eang ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn ninas Efrog Newydd.
Mae鈥檙 Cenhedloedd Unedig yn gyfrifol am gydweithio rhyngwladol ac, ers ei sefydlu, mae wedi gosod nifer o nodau i sicrhau cydraddoldeb ar draws y byd.
Gwylio: Fideo鈥檙 Cenhedloedd Unedig
Cynhadledd San Francisco a Siarter y Cenhedloedd Unedig
Rhwng Ebrill a Mehefin 1945, wrth i鈥檙 Ail Ryfel Byd ddirwyn i ben, daeth cynrychiolwyr o 50 o wledydd at ei gilydd yn Nh欧 Opera San Francisco i lunio y Cenhedloedd Unedig.
Fe sefydlodd y siarter brif bwrpas, strwythur llywodraethu a fframwaith cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Ar 26 Mehefin 1945, cafodd y siarter ei harwyddo gan gynrychiolwyr y 50 o wledydd. Ddaeth hi ddim i rym tan 24 Hydref 1945 pan gadarnhawyd telerau'r siarter. Dyma鈥檙 dyddiad pan fyddwn yn dathlu Diwrnod y Cenhedloedd Unedig.
Aelodau鈥檙 Cenhedloedd Unedig
Roedd yna 51 o aelodau pan gafodd y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu, ar 么l i Wlad Pwyl gael caniat芒d i ymuno ym mis Hydref 1945. Ers hynny mae wedi tyfu'n sylweddol, ac erbyn 2021 roedd 193 o aelod-wladwriaethau.
Mae gan gyfrifoldeb am heddwch a diogelwch rhyngwladol. Mae 15 o aelodau ac mae gan bump o鈥檙 rhain seddi parhaol:
- Y Deyrnas Unedig
- Unol Daleithiau America
- China
- Ffrainc
- Rwsia (a gymerodd sedd yr Undeb Sofietaidd yn 1991)
Nodau鈥檙 Cenhedloedd Unedig
Ers ei sefydlu, mae鈥檙 Cenhedloedd Unedig wastad wedi gosod targedau a nodau i鈥檞 aelodau eu bodloni a鈥檜 cynnal.
Ymhlith y nodau mwyaf diweddar a gafodd eu gosod gan y Cenhedloedd Unedig yw鈥檙 Cyrchnodau Datblygu Cynaliadwy. Cyflwynwyd y rhain yn 2015 gyda鈥檙 bwriad o ddiogelu nodau hirdymor y Cenhedloedd Unedig o heddwch a diogelwch, ond gyda phwyslais ychwanegol ar fod yn fwy cynaliadwy a sicrhau bod gwledydd yn meddwl o ddifrif am fynd i'r afael 芒 materion fel newid hinsawdd.
Dyma鈥檙 17 o Gyrchnodau Datblygu Cynaliadwy:
- Dim tlodi
- Dim newyn
- Iechyd a llesiant da
- Addysg o ansawdd
- Cydraddoldeb rhywiol
- D诺r gl芒n a glanweithdra
- Ynni fforddiadwy a gl芒n
- Gwaith teilwng a thwf economaidd
- Diwydiant, arloesi a seilwaith
- Llai o anghydraddoldeb
- Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
- Defnyddio a chynhyrchu鈥檔 gyfrifol
- Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
- Bywyd o dan y d诺r
- Bywyd ar y tir
- Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn
- Partneriaethau
Ffynhonnell: (gwefan Saesneg)
Projectau Cadw Heddwch y Cenhedloedd Unedig - De Sudan
Mae鈥檙 Cenhedloedd Unedig wedi cynnal dros 70 o ymgyrchoedd cadw heddwch ers 1948.
Cafodd De Sudan annibyniaeth oddi wrth Weriniaeth Sudan yn 2011. Dyma鈥檙 wlad fwyaf newydd yn y Cenhedloedd Unedig (yn 2021) a hi yw aelod rhif 193. Ers ei sefydlu, mae'r wlad wedi dioddef rhyfeloedd cartref a gwrthdaro diddiwedd.
Ar 8 Gorffennaf 2011, penderfynodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fod y sefyllfa yn Ne Sudan yn fygythiad i heddwch rhyngwladol ac i ddiogelwch yn y rhanbarth. Sefydlwyd Cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig yn Ne Sudan (UNMISS) fel ymgyrch i gynnal heddwch ac i liniaru鈥檙 gwrthdaro o fewn y wlad.
Fe wnaeth UNMISS bennu meysydd allweddol i fynd i'r afael 芒 nhw wrth gynorthwyo De Sudan, yn cynnwys:
- sicrhau bod gan y wlad y gefnogaeth sydd angen arni ar gyfer heddwch a'i bod yn gallu gweithio ar adeiladu gwladwriaeth a datblygu economaidd yn y tymor hwy
- cefnogi鈥檙 llywodraeth gyda'i chyfrifoldebau dros fynd i'r afael 芒 gwrthdaro ac amddiffyn ei phobl
- cefnogi鈥檙 llywodraeth wrth iddi ddatblygu ei gallu i ddarparu diogelwch, sefydlu rheolaeth y gyfraith; a chryfhau diogelwch a chyfiawnder o fewn y wlad
Ni fyddai鈥檙 Cenhedloedd Unedig yn gallu cynnal yr ymgyrchoedd hyn heb help ei haelodau. Mae nifer o wledydd ledled y byd wedi cyfrannu milwyr ac aelodau o鈥檙 heddlu i helpu i gynnal heddwch yn Ne Sudan. Mae鈥檙 rhan fwyaf o'r rhain yn dod o wledydd fel Rwanda, Nepal, Ethiopia ac India.
Fe wnaeth llofnodi cytundeb heddwch newydd yn 2018, a sefydlu llywodraeth o undod cenedlaethol ostwng lefel y trais gwleidyddol yn y wlad. Yn raddol cafodd Safleoedd Amddiffyn y Cenhedloedd Unedig, a adeiladwyd i amddiffyn y rheini oedd mewn perygl yn ystod y gwrthdaro mwyaf dwys, eu troi鈥檔 wersylloedd mwy confensiynol i bobl oedd wedi'u dadleoli.
More on Gwrthdaro a heddwch
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3