大象传媒

Gwrthdaro dros adnoddau

Nid yw gwrthdaro yn beth newydd ac mae gwahanol fathau o wrthdaro wedi digwydd dros y canrifoedd. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys y Goncwest Normanaidd a Brwydr Hastings yn 1066, ac yn fwy diweddar, rhyfeloedd fel yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) neu鈥檙 Rhyfel Oer(1947-1991).

Mae gwrthdaro'n gallu digwydd o ganlyniad i anghydfod yngl欧n 芒 defnydd tir neu adnoddau, dros awdurdod gwleidyddol a hawliau tiriogaethol. Mae crefydd a delfrydau hefyd yn gallu effeithio ar sut mae gwahanol wledydd yn rhyngweithio 芒'i gilydd a gall arwain at wrthdaro.

Gwylio: Fideo Gwrthdaro dros adnoddau

Gwylia鈥檙 clip byr hwn i ddysgu mwy am wrthdaro dros adnoddau.

Gwrthdaro yng Nghymru

Yn 1957, cafodd mesur preifat a noddwyd gan Gyngor Dinas Lerpwl ei roi gerbron Senedd San Steffan i greu cronfa dd诺r yng nghwm Tryweryn, ger y Bala yng Ngwynedd. Roedd hyn i ateb yr angen cynyddol am dd诺r ar gyfer cartrefi a diwydiant yn Lerpwl a鈥檙 Wirral. Roedd yn golygu y byddai pentref Capel Celyn yn cael ei foddi.

Roedd Cyngor Dinas Lerpwl yn gallu cael awdurdod drwy Ddeddf Seneddol. Roedd hyn yn golygu bod y datblygiad yn gallu osgoi unrhyw ymchwiliad cynllunio yng Nghymru lle byddai'n bosib cyflwyno unrhyw ddadleuon yn erbyn y cynnig.

Sbardunodd boddi Tryweryn wrthdaro rhwng y Cymry a Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd sawl protest heddychlon a gorymdeithiodd cannoedd o bobl, gan gynnwys trigolion Capel Celyn, drwy strydoedd Lerpwl. Ar 10 Chwefror 1963, fe wnaeth y gr诺p milwriaethus Mudiad Amddiffyn Cymru blannu bom a difrodwyd offer trydanol ar safle adeiladu鈥檙 argae mewn ymgais i atal boddi鈥檙 cwm.

Roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwrthwynebu鈥檙 cynllun a phleidleisiodd 27 o 36 Aelodau Seneddol Cymru yn erbyn ail ddarlleniad y mesur heb yr un ohonyn nhw鈥檔 ei gefnogi. Er hynny, cafodd y cwm ei foddi yn 1965.

Collwyd y pentref a鈥檌 adeiladau, gan gynnwys swydda鈥檙 post, yr ysgol a鈥檙 capel, gyda ffermydd yn cael eu boddi hefyd. Cafodd y trigolion lleol Cymraeg eu hiaith yn bennaf eu dadleoli ac fe gollodd rhai eu bywoliaeth.

Effaith gwrthdaro

Mae gwrthdaro yn achosi nifer o wahanol broblemau, ac fel arfer, mae鈥檙 rhain yn cael eu teimlo fwyaf mewn gwledydd sy'n datblygu.

Gall gwrthdaro sbarduno amrywiaeth o faterion eraill fel:

  • terfysgaeth - pan mae grwpiau yn ceisio dylanwadu ar lywodraethau drwy weithredoedd treisgar

  • rhyfel cartref - pan mae grwpiau sy'n gwrthwynebu ei gilydd yn defnyddio trais arfog i ennill rheolaeth ar wlad

  • rhyfel - pan fydd trais arfog yn cael ei ddefnyddio gan un wlad yn erbyn gwlad arall am b诺er a rheolaeth

Mae'r problemau hyn yn gallu achosi dioddefaint eang oherwydd bod pobl yn cael eu dal yn y gwrthdaro ac mewn perygl o gael eu niweidio gan grwpiau arfog. Mae eraill yn cael eu gorfodi i fudo i wledydd eraill, yn aml fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn dod o hyd i ddiogelwch.

Gall gwrthdaro hefyd gael effaith niweidiol ar allu gwlad i ddatblygu pan fydd arweinwyr yn gwario arian ar arfau yn hytrach na seilwaith newydd, addysg a gofal iechyd ar gyfer ei phobl. Mae rhyfel a therfysgaeth yn aml yn gallu arwain at lanweithdra a hylendid gwael, lledaenu clefydau a newyn.

Datrys gwrthdaro

Mae troi cyfnod o wrthdaro yn gyfnod heb wrthdaro yn cael ei alw鈥檔 ddatrys gwrthdaro. Mae'n bosib cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • cyfaddawdu 鈥 y ddau gr诺p sy鈥檔 gwrthdaro yn dod i gytundeb a fydd yn aml yn golygu bod y ddwy ochr yn ildo mewn rhai ffyrdd

  • dadl ddemocrataidd - sefydliadau yn rhoi cyfle i grwpiau sy鈥檔 gwrthwynebu ei gilydd i drafod eu barn am y sefyllfa gyfredol ac am gynlluniau ar gyfer symud ymlaen, bwrw pleidlais a chadw at benderfyniad y mwyafrif. Cyn belled 芒 bod pawb yn cytuno ac yn cadw at y penderfyniad cyffredinol, mae modd osgoi gwrthdaro.

Mae nifer o sefydliadau yn helpu i leihau effeithiau gwrthdaro drwy ddarparu adnoddau, gofal iechyd ac addysg. Mae鈥檙 Cenhedloedd Unedig hefyd yn canolbwyntio ar ymdrechion adeiladu heddwch ar draws y byd drwy gryfhau gallu cenedlaethol i reoli gwrthdaro.

Mae鈥檙 Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ganolog i ymdrechion rhyngwladol i gadw heddwch mewn gwledydd fel Cambodia, Affganistan, Haiti a Sudan. Mae鈥檔 ceisio sicrhau heddwch drwy gynnig cymorth rhyngwladol ac ymyrraeth fel:

  • monitro cadoediad
  • helpu i ddychwelyd ffoaduriaid a phobl sydd wedi鈥檜 dadleoli
  • helpu i drefnu a monitro etholiadau i ddewis llywodraethau newydd

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic