Beth yw ymholiad daearyddol?
Gall ymholiadau daearyddol gynnwys ymchwilio amgylcheddau dynol a ffisegol. Maen nhw'n ffordd o ymchwilio i gwestiynau am y byd rydyn ni'n byw ynddo ac i ddysgu sut mae prosesau'n gweithio.
Mae chwe cham i'w dilyn mewn ymholiad daearyddol.
- Cynllunio
- Gwaith maes
- Prosesu a chyflwyno data
- Dadansoddi a dehongli data
- Llunio casgliad
- Gwerthuso
Gwylio: Fideo Ymholiad daearyddol - Rhan 1
Cynllunio
Yn gyntaf, penderfyna beth i鈥檞 astudio. Gall ymholiadau ymwneud 芒鈥檙 amgylchedd ffisegol a dynol. Gall yr amgylchedd ffisegol gynnwys astudio afonydd, arfordiroedd, twyni tywod a mynyddoedd. Gall yr amgylchedd dynol gynnwys archwilio lleoliadau mwy trefol mewn trefi a dinasoedd.
Yna dewisa gwestiwn i'w ofyn am yr hyn rwyt ti wedi dewis ei astudio. Neu meddylia am ragdybiaeth - sef rhagfynegiad i'w brofi i weld os ydy e'n wir neu beidio.
Cwestiwn
Ar gyfer ymholiad traffig, un cwestiwn posib yw, 鈥'Ydy amser o鈥檙 dydd yn effeithio ar y math, maint a chyfeiriad traffig ar y ffordd fawr?鈥
Gall y cwestiwn hwn gael ei rannu ymhellach yn is-gwestiynau.
- Pa fathau o draffig sy鈥檔 defnyddio鈥檙 ffordd fawr?
- Faint o gerbydau sy鈥檔 pasio o fewn amser penodedig?
- Sut mae cyfeiriad y traffig yn cymharu ar adegau gwahanol o鈥檙 dydd?
Ar gyfer ymholiad am afon, un cwestiwn posib yw, 鈥'Sut mae afon yn newid ar hyd ei chwrs?'
Gall y cwestiwn gael ei rannu ymhellach yn is-gwestiynau.
- A yw cyflymder afon yn newid ar hyd ei chwrs?
- Beth sy鈥檔 digwydd i led a dyfnder afon wrth symud i lawr yr afon?
- Ydy maint a si芒p cerrig m芒n yn newid ar hyd cwrs afon?
Rhagdybiaeth
Gallet di ddewis rhagdybiaeth i'w phrofi i weld os yw鈥檔 wir neu beidio.
Ar gyfer ymholiad i faint o draffig sy鈥檔 teithio ar hyd y ffordd fawr, un rhagdybiaeth bosib yw, 鈥楻wy鈥檔 credu y bydd mwy o draffig yn mynd tuag at ganol y ddinas yn ystod yr oriau brys y bore鈥.
Wrth gynnal ymholiad afon, un rhagdybiaeth bosib yw, 鈥楻wy鈥檔 credu y bydd yr afon yn mynd yn fwy llydan ac yn fwy dwfn wrth i fi deithio i lawr yr afon鈥.
Dewis y lleoliad cywir
Unwaith y byddi di wedi dewis cwestiwn ymholi neu ragdybiaeth, mae鈥檔 bwysig dod o hyd i leoliad addas, hawdd i'w gyrraedd i gynnal yr ymholiad. Mae angen meddwl yn ofalus wrth ddewis y lleoliad a'r amser gorau.
Ar gyfer ymholiad traffig sy鈥檔 edrych ar y ffordd fawr i mewn ac allan o ganol y ddinas, byddai angen ystyried cwestiynau fel y canlynol.
- Ble mae'r lle mwyaf diogel i sefyll i gasglu'r data?
- Oes modd gweld yr holl draffig o鈥檙 lleoliad hwn?
- A yw鈥檙 lleoliad yn hawdd i'w gyrraedd?
Wrth astudio afon, byddai angen i dewis safleoedd casglu data lle mae'n ddiogel i fynd at yr afon.
Edrycha ar ragolygon y tywydd a phenderfyna os yw鈥檔 ddiogel i ti gasglu data.
Asesiad risg
Mae creu asesiad risg yn golygu nodi peryglon posib ac ystyried pa mor debygol yw hi y byddan nhw'n achosi niwed neu ddifrod.
Mae鈥檔 rhaid cwblhau asesiad risg cyn dechrau unrhyw ymchwiliad. Mae angen ystyried yr holl heriau a pheryglon, fel:
- ble mae hi'n ddiogel i sefyll i gasglu'r data?
- sut fydd y tywydd ar ddiwrnod casglu鈥檙 data?
- a fyddi di'n gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o gr诺p?
- beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn cwympo ac yn brifo ei hun?
Peryglon posib | Risg | Tebygolrwydd | Sut i leihau鈥檙 risg | |
---|---|---|---|---|
1. Glaw trwm - hypothermia | 3/5 | 3/5 | Edrych ar y rhagolygon tywydd. Dod 芒 chot law ac ymbarel. Aros am ddiwrnod sych. | |
2. Mynd ar goll | 2/5 | 4/5 | Cynllunio鈥檙 llwybr yn ofalus. Dod 芒 map. Dweud wrth rywun lle rwyt ti鈥檔 mynd. Dod 芒 ff么n. |
Data
Data yw鈥檙 wybodaeth sy鈥檔 cael ei chasglu ar gyfer yr ymholiad. Mae'n rhaid i'r data ateb y cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn.
Mae鈥檔 bwysig ystyried sut i gasglu鈥檙 data. Wrth wneud ymholiad traffig, efallai y byddi di am gofnodi nifer y ceir, lor茂au, bysiau, beiciau modur, beiciau a cherddwyr sy鈥檔 pasio dros gyfnod o 30 munud.
Dylai data fod yn dibynadwyAnsoddair sy鈥檔 disgrifio rhywbeth y mae鈥檔 bosibl dibynnu arno, ac ymddiried ynddo.. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i鈥檙 data sy鈥檔 cael ei gasglu fod yn fanwl gywir, felly wrth gynnal ymholiad traffig mae angen i ti ystyried:
- sut mae modd casglu data heb unrhyw wallau?
- a fydd y canlyniadau'n fanwl gywir os byddi di鈥檔 ceisio cyfrif traffig sy'n mynd i'r ddau gyfeiriad?
- oes modd casglu data gyda phartner i'w wneud yn fwy cywir?
Data cynradd a data eilaidd
Data cynradd yw data sy鈥檔 wreiddiol ac yn cael ei gasglu鈥檔 uniongyrchol. Er enghraifft, siart gyfrif o faint o draffig rwyt ti鈥檔 ei weld yn teithio ar hyd ffordd fawr neu fesuriadau rwyt ti wedi eu gwneud o led a dyfnder afon
Data eilaidd yw data sydd wedi ei gasglu gan rywun arall yn barod ac sydd ar gael yn rhywle, ee mewn llyfr, data cyfrifiad neu ar wefan ddibynadwy.
Wrth gasglu data mae'n bwysig cael cydbwysedd rhwng data cynradd ac eilaidd.
Data feintiol a data ansoddol.
Mae'r data sy鈥檔 cael ei gasglu yn gallu bod yn feintiol neu'n ansoddol.
Swm neu werth yw data meintiol sy鈥檔 cael ei fynegi mewn rhifau, ee cyflymder afon, nifer y ceir neu faint o sbwriel mewn lleoliad penodol.
Gall y data yma gael ei gasglu drwy ddefnyddio dulliau fel arolygon amgylcheddol, siartiau cyfrif neu drwy fesur.
Mae data meintiol yn gallu bod yn gyflym i'w gasglu, yn dda i鈥檞 ddangos mewn graff ac yn hawdd i'w gymharu. Ond, nid yw'r data hwn yn aml yn cynnig digon o ddyfnder ar ei ben ei hun, felly mae'n ddefnyddiol defnyddio data meintiol ac ansoddol gyda'i gilydd i gael cydbwysedd da.
Mae data ansoddol yn cael ei fynegi ar ffurf lluniau, geiriau a disgrifiadau. Mae modd ei gasglu mewn ffyrdd gwahanol, ee cyfweld 芒 pherson am ei safbwyntiau personol, casglu holiaduron, tynnu brasluniau neu dynnu ffotograffau. Mae'r wybodaeth hon yn llawer mwy disgrifiadol ac mae'n gallu rhoi darlun cliriach o'r amgylchedd neu'r gymuned. Mae'r math hwn o ddata yn llawn gwybodaeth, ond gall fod yn anoddach ei ddangos mewn graff.
Gwaith maes
Prif bwrpas gwaith maes yw casglu data cynradd, sef unrhyw wybodaeth rwyt ti鈥檔 ei chofnodi dy hun, ar leoliad. Mae yna sawl peth sydd angen eu hystyried wrth wneud hyn.
Technegau samplu
Mae'n rhaid dewis y dechneg samplu yn ofalus oherwydd mae'n helpu i ddileu tuedd, sef pan fydd un canlyniad neu ateb yn cael ei annog yn fwy nag eraill. Mae angen egluro pam fod dull samplu wedi cael ei ddefnyddio i gasglu'r data er mwyn sicrhau bod y data yn cael ei ystyried yn ddibynadwy a bod canlyniadau'r ymholiad yn cael eu hystyried yn deg ac yn fanwl gywir.
Mae tri phrif fath o samplu.
- Samplu systemig 鈥 casglu data mewn trefn ac yn rheolaidd, ee bob pumed t欧, neu bob milltir ar hyd afon.
- Samplu ar hap 鈥 dewis lleoliad neu berson i gasglu data ar hap.
- Samplu haenedig 鈥 rhannu鈥檙 samplu yn grwpiau, ee dewis tri lleoliad i gasglu data ar hyd ffordd neu afon ymlaen llaw.
Casglu data meintiol
Mae鈥檔 bwysig ystyried sut mae鈥檙 data sydd ei angen ar gyfer yr ymchwiliad yn cael ei gasglu.
Ar gyfer ymchwiliadau dynol, mae dulliau ansoddol a meintiol yn cael eu defnyddio.
Mae dulliau casglu data meintiol yn cynnwys:
- llif cerddwyr
- siartiau cyfrif
- arolygon amgylcheddol
- arolygon defnydd tir
Wrth gasglu data meintiol, er enghraifft mewn ymholiad traffig, byddai'n bosib defnyddio taflen casglu data.
Gall dulliau casglu data arbennig gael eu defnyddio yn dibynnu ar leoliad a phwyslais yr ymholiad. Os wyt ti'n cwblhau ymchwiliad ar afon gallet ti fesur y:
- trawstoriadau
- perimedr gwlychu
- lled a dyfnder yr afon
- cyflymder
- si芒p a maint y cerrig m芒n
- graddiant
Casglu data ansoddol
Mae dulliau casglu data ansoddol yn cynnwys:
- holiaduron, sef cwestiynau wedi eu hysgrifennu neu argraffu gyda dewis o atebion
- cyfweliadau, sef gofyn i bobl am eu barn wyneb yn wyneb
- mapio emosiwn, sef cofnodi teimladau鈥檙 ymchwilydd am leoliadau, ee rhoi sg么r sy鈥檔 mynegi pa mor ddiogel maen nhw鈥檔 teimlo mewn gwahanol leoedd
Offer
Mae'n bwysig ystyried pa offer sydd ei angen i gwblhau'r ymholiad fel bod gyda ti bopeth sydd ei angen ar gyfer yr ymchwiliad. Bydd yr offer sydd ei angen yn dibynnu ar natur yr ymchwiliad.
Er enghraifft, ar gyfer yr ymholiad traffig dim ond clipfwrdd, taflen casglu data, pensil a rwber sydd eu hangen i gofnodi'r data.
Ond ar gyfer astudiaeth o鈥檙 afon, byddai'r rhestr o offer yn hirach oherwydd byddai angen eitemau fel polion anelu, t芒p mesur, pren mesur metr, mesurydd llif a stopwatsh hefyd.
Beth bynnag fo'r ymchwiliad, cadwa lygad ar ragolygon y tywydd ymlaen llaw fel dy fod wedi gwisgo'n addas.
Ymholiad daearyddol - Rhan 2
Dysga am y pedwar cam nesaf mewn ymholiad daearyddol yn Ymholiad daearyddol - Rhan 2
More on Sgiliau daearyddol
Find out more by working through a topic
- count2 of 2