大象传媒

Amrediad a phlotiau blwch a blewynPlotiau blwch a blewyn

Mae plotiau blwch a blewyn yn ffordd effeithiol o gymharu dosraniadau a chrynhoi eu nodweddion yn hawdd. Defnyddir y diagramau hyn yn aml wrth ddadansoddi data ac mewn gwaith ystadegol.

Part of Mathemateg RhifeddYstadegau

Plotiau blwch a blewyn

Mae plotiau blwch a blewyn yn ffordd effeithiol iawn o ddangos llawer o wybodaeth.

Llinell rhif yn dangos amrediad rhyngchwartel

Mae鈥檙 plotiau hyn yn cynnwys yr amrediad, yr amrediad rhyngchwartel, y canolrif, y gwerth isaf, y gwerth uchaf, y chwartel isaf a鈥檙 chwartel uchaf. Gallan nhw un ai gael eu llunio ar linell rif fel y gweli di uchod, neu weithiau gall nifer ohonyn nhw gael eu plotio ar graff er mwyn cymharu dosraniadau.

Weithiau bydd gofyn i ti lunio plot blwch a blewyn o ddiagram amlder cronnus.

Graff llinell gyda echelin Y wedi ei labeli 鈥楢mlder cronnus鈥 ac echelin X wedi ei labeli 鈥楬yd (cm)鈥 yn cynnwys llinell rhif oddi tano

Gelli wneud hyn trwy ganfod y canolrif a鈥檙 amrediad rhyngchwartel yn gyntaf, gan ddefnyddio鈥檙 dull arferol, ac yna plotio hwn ar linell rif fel y dangosir uchod.

Question

Llunia blot blwch a blewyn ar gyfer yr wybodaeth ganlynol:

  • Amrediad - 75
  • Gwerth isaf - 15
  • Amrediad rhyngchwartel - 43
  • Chwartel uchaf- 68
  • Canolrif - 44

Question

Mae cwmni gwasanaethau yn ymchwilio i gost biliau nwy a thrydan mewn cartrefi. Maen nhw wedi dadansoddi鈥檙 wybodaeth o gannoedd o dai a chanfod mai canolrif y gost yw 拢66 a鈥檙 amrediad rhyngchwartel yw 拢21. Yr amrediad yw 拢27.50, y pris rhataf oedd 拢47.50 a鈥檙 chwartel uchaf oedd 拢74. Defnyddia blot blwch a blewyn i gynrychioli鈥檙 wybodaeth hon.