大象传媒

Beth yw cerddoriaeth gyfunol?

Er bod llawer o gerddoriaeth yn gallu cynnwys dylanwadau o bob cwr o鈥檙 byd, mae cerddoriaeth gyfunol yn ynddo鈥檌 hun.

Mae cerddoriaeth gyfunol yn gyfuniad o ddwy arddull gerddorol neu ragor. Er enghraifft, mae roc a r么l, a ddatblygodd yn yr Unol Daleithiau yn yr 1940au a鈥檙 50au, yn gyfuniad o ganu gospel, jazz, rhythm a blues, a chanu gwlad.

Mae diwylliannau eraill y byd wedi dylanwadu ar gyfansoddwyr drwy gydol hanes, ond mae cerddoriaeth bop gyfunol wedi dod yn fwy cyffredin ers yr 1960au.

Mae鈥檙 llinell amser ganlynol yn dangos rhai o鈥檙 albymau a鈥檙 artistiaid mwyaf nodedig ym maes cerddoriaeth gyfunol ers yr 1960au.

Artistiaid yn cynnwys: Machito; Miles Davies; Dizzy Gillespie; Bob Marley; Frank Zappa; Paul Simon; Bjork; Santana; Damet Akalin.

Dyma rai enghreifftiau o brojectau cerddoriaeth gyfunol yn yr 20fed ganrif, ynghyd 芒鈥檜 tarddiad:

  • Afro Celt Sound System (cynnwys Saesneg) - Cerddoriaeth Wyddelig draddodiadol, cerddoriaeth draddodiadol Gorllewin Affrica, dawns electronig
  • Esperanza Spalding (cynnwys Saesneg) - gyda
  • Dizzy Gillespie and Machito (cynnwys Saesneg) - cerddoriaeth Giwbaidd-Affricanaidd gyda jazz
  • Buena Vista Social Club - cyfuniad o elfennau Affricanaidd ac elfennau o Dde America gyda git芒r Americanaidd
  • Capercaillie (cynnwys Saesneg) - Cerddoriaeth draddodiadol yn yr iaith Aeleg o'r Alban gyda thechnoleg cerddoriaeth fodern
  • Demet Akalin - Cerddoriaeth werin o Dwrci gyda y Gorllewin
  • Nitin Sawhney - cerddoriaeth Asiaidd gydag elfennau o jazz, electronica a dylanwadau byd-eang eraill

Mae Bohemian Rhapsody, c芒n Queen o 1975, yn enghraifft o gyfuno nifer o arddulliau cerddorol i greu c芒n chwe munud sy鈥檔 gyfansoddiad di-dor. Gwaith un symudiad yw rhapsodi sy鈥檔 cynnwys ystod gyferbyniol o gyweiredd, naws a lliw. Ar 么l y rhagarweiniad, mae Bohemian Rhapsody yn cynnwys baled, darn operatig, darn roc blaengar, a鈥檙 coda i gloi.

More guides on this topic