大象传媒

Dulliau o ymladd troseddGwella a datblygu dulliau plismona yn yr 1800au

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw鈥檔 fwy effeithiol nag eraill. Mae鈥檙 dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Gwelliannau a datblygiadau yn nulliau plismona yn y 19eg ganrif

Roedd yr Heddlu Metropolitan yn arwain y ffordd o ran gwella dulliau plismona, ac roedd heddluoedd eraill o gwmpas y wlad yn dilyn hynny.

Arbenigo

Sefydlodd y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan adran dditectifs dillad arferol yn 1842. Roedd hynny yn ddatblygiad arwyddocaol yn y dull o blismona, oherwydd eu r么l oedd:

  • ymchwilio i droseddau
  • archwilio cliwiau
  • casglu tystiolaeth o safle鈥檙 drosedd
  • delio 芒 thystion a dioddefwyr

Oherwydd eu bod yn gwisgo dillad arferol gallant fynd i ymchwilio i droseddau heb fod neb yn sylwi arnyn nhw.

Sefydlwyd Adran Ymchwiliadau Troseddol (Criminal Investigation Department - CID) gan yr Heddlu Metropolitan yn 1878, ac erbyn 1883, roedd yna 800 o swyddogion CID. Yn 1884, sefydlwyd y Gangen Ymchwilio Arbennig, a elwid yn Special Branch. Roedd y newidiadau yn bennaf yn ymateb i gynnydd mewn yr adeg honno gan grwpiau megis Brawdoliaeth y Ffeniaid Gwyddelig.

Technoleg

Yn 1867 defnyddiwyd y am y tro cyntaf yn Scotland Yard er mwyn gwella cyfathrebu. Yn 1869, cafodd hynny ei ymestyn i ardaloedd eraill. Roedd ffotograffiaeth yn cael ei ddefnyddio鈥檔 gynyddol erbyn diwedd yr 19eg ganrif er mwyn helpu鈥檙 heddlu. I ddechrau tynnwyd lluniau o wynebau troseddwyr a rhai dan amheuaeth. Yn ddiweddarach datblygodd ffotograffiaeth i gynnwys tystiolaeth o safle troseddau.

Cofnodion

Sefydlwyd Swyddfa Cofnodion Troseddol gan yr Heddlu Metropolitan yn 1869 er mwyn cofnodi troseddau, troseddwyr a'r rhai dan amheuaeth.

Effeithiolrwydd yr heddlu yn ystod y 19eg ganrif

Er i gyfraddau troseddu gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, nid yw hynny鈥檔 golygu bod yr heddlu yn aneffeithiol. Erbyn hynny roedd gan y wlad gyfan heddlu cyflogedig, hyfforddedig llawn amser mewn lifrai. Roedd y cynnydd mewn arbenigedd a defnyddio technoleg yn golygu bod yr heddlu yn fwy effeithiol o ran dal troseddwyr ac atal troseddu.