大象传媒

Dulliau o ymladd trosedd20fed ganrif - plismona cymunedol

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw鈥檔 fwy effeithiol nag eraill. Mae鈥檙 dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

20fed ganrif - plismona cymunedol

Erbyn y 1980au, roedd delwedd yr heddlu wedi dirywio. Cyhuddwyd heddluoedd o hiliaeth yn dilyn nifer o reiadau o ganlyniad i achosion o hiliaeth. Niweidiwyd enw da鈥檙 heddlu o ganlyniad i honiadau o ffugio tystiolaeth, defnyddio trais yn erbyn y cyhoedd a bygwth pobl er mwyn eu gorfodi i gyfaddef i drosedd. Roedd y cyhoedd hefyd yn credu bod yr heddlu鈥檔 cadw draw wrth bobl yn eu ceir.

Mewn rhai achosion, dechreuwyd cyfeirio at yr heddlu fel 鈥榤och鈥. Yn 1981 ysgrifennodd Yr Arglwydd Scarman adroddiad am Reiadau Brixton. Daeth i鈥檙 casgliad nad oedd yr heddlu yn gallu uniaethu 芒 phobl, a鈥檜 bod wedi colli cefnogaeth y bobl yr oedden nhw'n eu plismona.

Ers hynny, mae鈥檙 heddlu wedi mabwysiadu dulliau plismona mwy cymunedol. Mae swyddogion ar y b卯t neu ar feiciau wedi dychwelyd er mwyn rhoi sicrwydd i鈥檙 cyhoedd. Erbyn hyn mae鈥檙 heddlu yn cyflogi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH).

Ffotograff o ddau heddwas mewn siacedi llachar gyda鈥檜 cefnau at y camera. Mae pobl yn gwylio g锚m b锚l droed sy鈥檔 cael ei dangos ar sgrin fawr.
Image caption,
Swyddogion yr heddlu yn gwylio鈥檙 sgrin fawr wrth i gefnogwyr Cymru ymgasglu i wylio g锚m Gr诺p B UEFA Ewro 2016 rhwng Cymru a Lloegr

Mae gan yr heddlu hefyd swyddogion sy鈥檔 gysylltiedig ag ysgolion er mwyn helpu i addysgu pobl ifanc ynghylch r么l yr heddlu. Yn aml mae鈥檙 heddlu yn mynychu cyfarfodydd Gwarchod Cymdogaeth a grwpiau cymunedol lleol.

Effeithiolrwydd plismona modern

Mae鈥檙 heddluoedd yn cael eu harolygu鈥檔 flynyddol gan Her Majesty's Inspectorate of Constabulary and Fire & Rescue Services - HMICFRS.

Mae pob heddlu yn cael ei archwilio鈥檔 flynyddol ac ysgrifennir a chyhoeddir adroddiad am ba mor effeithiol ydyn nhw. Rhoddir targedau i wella i bob heddlu.