Drifft cyfandirol (tectoneg platiau)
Cafodd damcaniaeth drifft cyfandirol ei chynnig ar ddechrau鈥檙 ganrif ddiwethaf gan y gwyddonydd o鈥檙 Almaen, Alfred Wegener.
Cyn i Wegener ddatblygu ei ddamcaniaeth, roedd pobl yn meddwl bod mynyddoedd yn ffurfio am fod y Ddaear yn oeri, ac wrth iddi oeri, ei bod hi鈥檔 cyfanguLleihau o ran maint neu gyfaint.. Roedd y broses hon yn ffurfio rhychau, neu fynyddoedd, ar gramen y Ddaear.
Pe bai hyn yn wir, byddai鈥檙 un faint o fynyddoedd ym mhob rhan o arwyneb y Ddaear. Rydyn ni鈥檔 gwybod nad yw hyn yn wir.
Damcaniaeth Wegener
Awgrymodd Wegener fod mynyddoedd yn ffurfio wrth i ymyl un cyfandir sy鈥檔 drifftio wrthdaro ag un arall, gan achosi iddo grychu a phlygu. Er enghraifft, ffurfiodd yr Himalayas wrth i India wrthdaro ag Asia.
Cymerodd hi dros 50 mlynedd i ddamcaniaeth Wegener gael ei derbyn. Un o鈥檙 rhesymau oedd ei bod hi鈥檔 anodd deall sut byddai cyfandiroedd cyfan yn gallu symud. Roedd rhaid aros tan yr 1960au i gael tystiolaeth o gerhyntau darfudiad yn y fantell i ategu鈥檙 ddamcaniaeth yn llawn.
Mae鈥檙 sioe sleidiau hon yn esbonio damcaniaeth Wegener.
1 of 3
Tystiolaeth o ddrifft cyfandirol
Beth oedd y dystiolaeth o blaid damcaniaeth Wegener?
- Mae鈥檙 ffaith bod si芒p arfordir dwyreiniol De America yn cyd-fynd ag arfordir gorllewinol Affrica yn awgrymu bod y ddau鈥檔 arfer bod yn rhan o un cyfandir (mae hyn yn golygu bod amlinellau鈥檙 cyfandiroedd yn ffitio 芒鈥檌 gilydd fel jig-so).
- Mae patrymau tebyg o greigiau ar y ddwy ochr i鈥檙 Iwerydd.
- Mae ffosiliau tebyg ar y ddwy ochr i鈥檙 Iwerydd 鈥 gan gynnwys gweddillion ffosil anifeiliaid tir fyddai wedi methu nofio ar draws o un ochr i鈥檙 llall.