Cofiant
Beth yw cofiant?
Cofiant yw hanes bywyd unigolyn wedi鈥檌 ysgrifennu gan rywun arall (mae hunangofiant yn hanes unigolyn yn ei eiriau ei hun).
Iaith ac arddull
- Mae angen i ti ddefnyddio amser gorffennol y ferf.
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y trydydd person.
- Mae angen dweud beth sydd wedi digwydd yn drefnus 鈥 dechrau ar y dechrau a gorffen ar y diwedd.
- Mae angen i ti ateb y cwestiynau 鈥 beth? pyd? ble? sut? pwy?
- Defnyddia eiriau ac ymadroddion er mwyn cydfynd a steil y pwyntiau eraill.
Enghraifft o gofiant Steve Jobs 1955 鈥 2011
Dyma ddyn a osododd ei stamp ar fyd cyfrifiaduron, ar fyd ffilm, ar fyd cerddoriaeth ac ar fyd y ff么n. Roedd yn un o鈥檙 rhai gychwynnodd gwmni Apple yn yr 1970au, mewn garej yn California. Ond yn 1985 aeth pethau鈥檔 ddrwg rhyngddo a bwrdd rheoli鈥檙 cwmni a chafodd ei ddiswyddo. Bu hyn yn garreg filltir yn ei hanes ac fe elwodd o鈥檙 profiad. Cychwynnodd gwmni arall a bu鈥檔 gweithio i Pixar Animations Studios. Pixar oedd yn gyfrifol am y ffilmiau llwyddiannus a phoblogaidd Toy Story, Finding Nemo a The Incredibles.
Fedrwch chi ddim peidio 芒鈥檌 edmygu. Llwyddodd i drawsnewid Apple a鈥檌 wneud yn un o鈥檙 cwmn茂au mwyaf llwyddiannus yn y byd. Llwyddodd i lansio'r iPhone a鈥檙 iPad ac yntau鈥檔 dioddef o ganser y pancreas. Roedd dyfalbarhad yn perthyn i Steve Jobs. Roedd yn dal ati. Roedd yn fodlon ailddechrau os oedd pethau yn mynd o chwith.
Oedd, roedd Steve Jobs yn dipyn o ddyn. Roedd yn athrylith.
(Byd Bach 鈥 Esyllt Maelor)
Ffynhonnell: