大象传媒

Agweddau tuag at gosbiPwrpas cosbi cyhoeddus drwy鈥檙 oesoedd

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae鈥檙 hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Pwrpas cosbi cyhoeddus drwy鈥檙 oesoedd

Hyd at ganol y 19eg ganrif roedd pobl yn cael eu cosbi'n gyhoeddus gyda鈥檙 cyhoedd yn eu gwylio. Roedd dienyddio鈥檔 digwydd ar grocbrennau cyhoeddus yng nghanol trefi a dinasoedd, ac yn aml roedden nhw鈥檔 denu torfeydd o gannoedd o bobl i鈥檞 gwylio.

Roedd cosbau cyhoeddus yn galluogi i鈥檙 gymuned gyfan ddial ar y troseddwr ac i weld bod y troseddwr wedi derbyn . Roedd hynny hefyd yn ataliaeth. Credid bod galluogi鈥檙 cyhoedd i weld y troseddwr yn dioddef ac mewn poen yn ffordd effeithiol o atal pobl rhag droseddu.

Cosbau cyhoeddus yn y 16eg a鈥檙 17eg ganrif

Rhwng 1500 a 1700, roedd bron pob cosb yn cael eu gweinyddu'n gyhoeddus, megis crwydriaid yn cael eu chwipio鈥檔 gyhoeddus yn 么l i鈥檞 pentrefi eu hunain, a rhoi m芒n ladron mewn cyffion a rhigodau.

Torlun pren yn dangos tri dyn yn hongian o鈥檙 crocbren. Maen nhw wedi鈥檜 hamgylchynu gan filwyr ac esgob. Mae un dyn yn cael ei losgi mewn t芒n.
Image caption,
Torlun pren yn darlunio crogi cyhoeddus a llosgi Hereticiaid i farwolaeth. O鈥檙 16eg ganrif

Cosbau cyhoeddus yn y 18fed a鈥檙 19eg ganrif

Roedd cosbau yn dal i gael eu gweinyddu鈥檔 gyhoeddus yn ystod y 18fed ganrif ond daeth yn llai a llai cyffredin. Daeth Comisiwn Brenhinol ar y Gosb Eithaf (1864) i'r casgliad na ddylai dienyddio gael ei weinyddu鈥檔 gyhoeddus mwyach.

  • Roedd torfeydd enfawr yn mynychu鈥檙 dienyddio. Roedd hynny yn creu mwy o gyfleoedd i droseddu megis pigo pocedi. Yn aml roedd y torfeydd yn anodd i鈥檞 rheoli.
  • Roedd y torfeydd yn gynyddol yn ystyried bod y dienyddio yn fath o adloniant. Dechreuodd y llywodraeth weld nad oedd dienyddio cyhoeddus mwyach yn cael yr effaith ataliol.
  • Roedd dienyddio cyhoeddus ar brydiau yn golygu bod y troseddwr yn dod yn enwog ac yn ymddangos yn arwrol.

Daeth mathau eraill o gosbi cyhoeddus i ben hefyd yn y 19eg ganrif. Dechreuwyd y tu mewn i garchardai. Nid oedd y cyffion a鈥檙 rhigod yn cael eu defnyddio mwyach.

Cosbau cyhoeddus yn yr 20fed a鈥檙 21ain ganrif

Yn y ddwy ganrif ddiwethaf, gwasanaeth cymunedol yw鈥檙 unig gosb sy鈥檔 cael ei chyflawni yn gyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2008, i ymateb i bwysau gan y cyhoedd i wneud cosbau鈥檔 fwy amlwg, cyflwynodd Jack Straw, yr Ysgrifennydd Cartref, yr angen i wisgo festiau llachar.

Ond mae鈥檙 cyfryngau hefyd yn gyfrwng i godi cywilydd yn gyhoeddus oherwydd gallan nhw s么n am y cosbau sy鈥檔 cael eu rhoi gan y llysoedd. Yn aml, mae鈥檙 papurau lleol yn gohebu am ddedfrydau a roddwyd yn ddiweddar. Ac mae鈥檙 papurau cenedlaethol yn cyhoeddi lluniau o droseddwyr adnabyddus sydd wedi cael dedfryd o wasanaeth cymunedol.