大象传媒

Agweddau tuag at gosbiY systemau ar wah芒n a thawel

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae鈥檙 hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Y systemau ar wah芒n a thawel

Rhwng 1842 ac 1877, cafodd 90 o garchardai eu hadeiladu neu ei hymestyn, gan gostio miliynau o bunnau. Adeiladwyd nifer o garchardai yng nghanol y 19eg ganrif oedd yn ddiogel, ac yn galluogi i garcharorion gael celloedd unigol. Yn y carchardai yma defnyddiwyd dwy gyfundrefn wahanol i geisio carcharorion. Roedd y ddwy gyfundrefn yn llym.

Y system ar wah芒n

Roedd Deddf Carchardai 1839 eisiau i garchardai newydd fabwysiadu'r system gwahanu. Mewn carchardai gwahanu, roedd y carcharorion yn cael eu cadw ar wah芒n, ar eu pen eu hunain mewn celloedd am wythnosau ac yn gorfod gweithio ar beiriannau fel y peiriant crancio.

Yna byddai carchardai yn ymweld 芒鈥檜 celloedd ac yn ceisio eu hannog i fyw bywyd didrosedd mwy Cristnogol. Credid y byddai carcharor yn myfyrio ar ei drosedd pan fyddai ganddo lawer o amser ar ei ben ei hun, ac yn cael ei ddiwygio.

Os oedd y carcharorion yn gadael eu celloedd, bydden nhw鈥檔 gorfod gwisgo masg ac aros yn ddistaw. Ar adeg ymarfer corff, byddai pob carcharor yn gafael mewn rhaff 4.5 metr oddi wrth y carcharor nesaf felly roeddent yn rhy bell oddi wrth ei gilydd i fod yn gallu sgwrsio.

Llun o garcharorion yn pweru rhes o felinau cerdded mewn timau o ddau. Mae un yn gorffwys tra mae鈥檙 llall yn gweithio. Mae wardeiniaid yn eu goruchwylio.
Image caption,
Y felin gerdded yng Ngharchar Coldbath Fields, 1868

Y system dawel

Mewn carchardai distaw, byddai鈥檙 carcharorion yn gorfod gwneud tasgau diflas ac ailadroddus, fel pasio pel ganon drom, a hynny heb ddweud dim. Bydden nhw鈥檔 cysgu ar welyau caled a bydden nhw鈥檔 bwyta bwyd sylfaenol fel bara ac yn yfed d诺r.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, nid oedd y system ar wah芒n na鈥檙 system dawel yn gweithio. Roedd y gyfradd hunanladdiad yn uchel ac nid oedd yna lawer o dystiolaeth bod carcharorion yn cael eu diwygio mewn gwirionedd.

Roedd Deddf Carchardai 1865 yn nodi y dylai carchardai fod yn llafur caled, lluniaeth caled ac yn llety caled. Mae hyn yn dangos dychweliad at agwedd o gosbi llym yn hytrach nag ymdrech i ddiwygio carcharorion drwy wahanu neu dawelwch.