Beth yw globaleiddio?
Globaleiddio yw鈥檙 ffordd y mae鈥檙 byd wedi dod yn fwy cydgysylltiedig. Mae鈥檔 cynnwys sut mae pobl yn cyfathrebu yn ogystal 芒 masnach byd-eang, buddsoddi rhyngwladol a rhannu syniadau.
Efallai ei bod hi鈥檔 rhyfedd meddwl bod ein byd yn mynd yn llai. Nid o ran maint y Ddaear ond yn y ffordd rydyn ni鈥檔 rhyngweithio 芒'n gilydd. Mae hyn oherwydd globaleiddio.
Canlyniad hyn yw bod pobl, cwmn茂au a llywodraethau ledled y byd yn dod yn fwy ac yn fwy rhyngwladol.
Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gallu cyfathrebu a theithio鈥檔 llawer cyflymach nac yn y gorffennol. Yn yr 1800au, roedd hi鈥檔 cymryd dyddiau neu wythnosau i lythyr gyrraedd pen ei daith.
Y dyddiau hyn, dim ond ychydig eiliadau mae'n ei gymryd i godi鈥檙 ff么n, anfon neges destun neu ebostio rhywun ym mhen draw鈥檙 byd.
Mae gwreiddiau globaleiddio yn yr Oesoedd Canol. Roedd gwladychu a fforio yn golygu bod syniadau, diwylliannau a thechnolegau yn cael eu rhannu o un wlad i'r llall.
Yn ddiweddar, mae鈥檙 broses hon wedi cyflymu oherwydd datblygiadau mewn technolegau cyfathrebu a thrafnidiaeth.
Erbyn hyn, mae'n anodd dychmygu byw mewn gwlad lle nad yw'r byd ehangach yn dylanwadu arni. Mae hyn yn gallu cynnwys y bwyd rydyn ni'n ei fwyta, y gerddoriaeth rydyn ni'n gwrando arni neu'r dillad rydyn ni'n eu gwisgo.
Gwylio: Fideo Globaleiddio
Ffactorau sydd wedi effeithio ar globaleiddio
Datblygiadau mewn technoleg
Mae datblygiadau mewn technoleg wedi cyfrannu at globaleiddio. Mae technolegau newydd wedi ysgogi cwmn茂au i fod hyd yn oed yn fwy byd-eang ac wedi gwneud y broses o gysylltu ar draws y byd yn llawer haws.
- Trafnidiaeth
Mae'r ffordd rydyn ni鈥檔 teithio wedi datblygu'n sylweddol ers y 19eg ganrif. Mae dyfodiad y peiriant tanio mewnol, y rheilffyrdd ac awyrennau yn golygu ei bod hi鈥檔 bosib teithio o un wlad i'r llall yn llawer iawn cyflymach nac y byddai wedi cymryd yn yr 17eg ganrif. Bryd hynny roedd pobl yn dibynnu ar geffylau neu longau i deithio gan fwyaf. Fe wnaeth dyfeisio鈥檙 injan betrol arwain at ddefnyddio ceir, bysiau a lor茂au ac adeiladu rhwydweithiau priffyrdd enfawr.
Mae datblygiadau ym maes hedfan yn golygu ei bod hi鈥檔 bosib symud nifer fawr o deithwyr a llawer o nwyddau dros bellteroedd maith yn llawer cyflymach.
Mae technolegau mwy newydd wedi ei gwneud hi鈥檔 bosib awtomeiddio鈥檙 broses o gludo nwyddau. Mae defnyddio dronau a llongau sydd yn hawdd eu llwytho a鈥檜 dadlwytho yn torri costau gweithredu sydd yn fantais i fusnesau.
1 of 6
Un o鈥檙 pethau wnaeth fwyaf i hybu globaleiddio oedd cyflwyno llongau cynwysyddion yn y 1950au. Maen nhw鈥檔 gwneud gwneud cludo nwyddau swmpus yn hawdd ac yn gyflym.
Mae defnyddio cynwysyddion i gludo nwyddau yn golygu bod posib eu trin unrhyw le yn y byd gyda llongau, lor茂au a chraeniau arbenigol. Mae hyn yn caniat谩u i gyflenwyr symud eu nwyddau yn gyflymach ac yn fwy effeithlon o gefn lor茂au i longau.
Mae'r newidiadau hyn, a gweithredu ar raddfa fawr, wedi lleihau costau cludo nwyddau i lawer o gyflenwyr. Mae hyn yn golygu ei bod yn llawer haws cael mynediad at y farchnad fyd-eang ac i allforio iddi.
Ond mae maint llongau cynwysyddion hefyd wedi achosi problemau. Yn ystod y 1960au, gwelodd ardal Dociau Llundain ddirywiad sylweddol gan nad oedd lle i鈥檙 llongau mwy o faint ar Afon Tafwys. O ganlyniad, symudodd masnach i ddociau dwfn fel Dover a Felixstowe.
- Cyfathrebu
Mae technolegau cyfathrebu wedi datblygu鈥檔 hynod o gyflym yn yr 21ain ganrif. Mae hyn wedi gyrru globaleiddio ac wedi chwalu rhwystrau gwleidyddol a diwylliannol.
- Mae鈥檙 rhyngrwyd yn galluogi pobl a busnesau i gyfathrebu ar unwaith.
- Mae cyfathrebu trwy loeren yn ei gwneud hi鈥檔 bosib i gael trosolwg byd-eang ac i allu cyfathrebu hyd yn oed mewn ardaloedd diarffordd. Maen nhw鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 bosib gwylio鈥檙 teledu a defnyddio ffonau.
- Mae ffonau symudol yn ei gwneud hi鈥檔 bosib cyfathrebu ac i gael mynediad i鈥檙 rhyngrwyd lle bynnag rydych chi.
- Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi pobl o gwmpas y byd mewn cysylltiad 芒鈥檌 gilydd.
Mae鈥檙 datblygiadau technolegol hyn yn golygu bod cwmn茂au trawswladol (Transnational corporations - TNCs) wedi gallu datblygu mewn gwledydd ledled y byd ac ei bod hi鈥檔 bosib monitro hyn o un pencadlys mewn gwlad fwy datblygiedig. Mae'r gostyngiad mewn amser cyfathrebu yn golygu bod cwmn茂au yn gallu gweithio hyd yn oed yn fwy effeithlon a lleihau eu costau.
Penderfyniadau llywodraethau
Mae penderfyniadau llywodraethau yn gallu cael effaith fawr ar r么l globaleiddio.
Fe wnaeth diwygiadau鈥檙 llywodraeth yn India yn ystod y 1990au newid y ffordd roedd hi鈥檔 gweithredu fel gwlad. Roedd y newidiadau hyn yn gwneud llawer mwy o fuddsoddiad tramor yn India yn bosib. O ganlyniad, gwelwyd cynnydd yn nifer y cwmn茂au trawswladol a oedd yn symud yno i ddatblygu. Ers y newid hwn, mae India yn cael ei ystyried fel un o鈥檙 gwledydd mwyaf blaenllaw ar y farchnad fyd-eang y tu 么l i China.
Mae ffurfio partneriaethau 芒 gwledydd eraill yn ei gwneud hi'n llawer haws masnachu ac i leihau costau. Mae鈥檙 Undeb Ewropeaidd yn enghraifft o gytundeb o鈥檙 fath. Mae ganddo bolis茂au sy'n anelu at sicrhau symudiad rhydd pobl, nwyddau a gwasanaethau yn ei aelod-wledydd sy'n hyrwyddo globaleiddio.
Effeithiau globaleiddio
Mae globaleiddio wedi siapio ein diwylliannau a鈥檔 hunaniaethau yn gymdeithasau homogenaidd a heterogenaidd.
Cymdeithas heterogenaidd
Mae Cymdeithas heterogenaidd yn cynnwys amrywiaeth eang o grefyddau, hiliau, diwylliannau, credoau a hyd yn oed diddordebau amser hamdden gwahanol fel sydd yng Nghymru.
Cymdeithas homogenaidd
Dyma gymdeithas lle mae llai o amrywiaeth, ee mewn diwylliannau a chredoau ac yn y nifer o ieithoedd sy鈥檔 cael eu siarad. Gall hyn hyd yn oed ymwneud 芒'r ffilmiau rydych chi'n eu gwylio neu'r bwyd rydych chi'n ei fwyta, wrth i ni ddechrau gweld yr un mathau o siopau a thueddiadau yn dod i'r amlwg mewn ardaloedd ar draws y byd.
Mae globaleiddio yn gallu bod yn beth positif ac yn rhywbeth negyddol.
Effeithiau positif
- Gall cwmn茂au trawswladol sy鈥檔 datblygu mewn gwledydd incwm is helpu i wella鈥檙 economi a chynnig swyddi a sgiliau newydd.
- Mae鈥檔 llawer haws cysylltu 芒 gweddill y byd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau tramor.
- Mae pobl yn gallu profi gwledydd a diwylliannau newydd o amgylch y byd oherwydd y cyfryngau a gwell trafnidiaeth.
- Rydyn ni鈥檔 gallu prynu cynnyrch o dramor yn llawer rhatach.
- Gall gwledydd rannu syniadau a helpu ei gilydd i ddatblygu technolegau newydd.
Effeithiau negyddol
- Gall cwmn茂au trawswladol ecsbloetio adnoddau gwledydd tlotach. Mewn rhai achosion mae pobl yn derbyn cyflog isel neu'n cael eu gorfodi i weithio o dan amodau anghyfreithlon.
- Mae busnesau bach yn cael eu gorfodi i gau oherwydd y gystadleuaeth oddi wrth siopau cadwyn byd-eang.
- Bygythiad i amrywiaeth 鈥 mae trefi a dinasoedd yn dod yn fwy ac yn fwy tebyg, bron iawn fel clonau o鈥檌 gilydd.
- Llawer iawn o lygredd yn cael ei greu wrth deithio mewn awyrennau a symud nwyddau ar longau a lor茂au.
- Gall afiechydon fel Covid-19 ledaenu o un wlad i'r llall yn llawer haws gan bod cymaint o bobl a nwyddau yn symud o amgylch y byd.
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count3 of 3
- count1 of 3